Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 9 Gorffennaf 2019.
Diolch, Dirprwy Llywydd. Heddiw, rwyf wedi lansio 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir'. Mae'r ymgynghoriad hwn yn nodi fy nghynigion ar gyfer cymorth amaethyddol ar ôl Brexit. Mae 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir' yn nodi cynigion ac yn gofyn am safbwyntiau ar y cynllun ffermio cynaliadwy newydd a'r fframwaith polisi sy'n sail iddo. Mae hefyd yn nodi cynigion ar gyfer meysydd ehangach o gymorth i helpu'r cynllun i weithredu, gan gynnwys cyngor, cymorth a rheoleiddio yn y diwydiant. Yn ogystal â hyn, mae'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau pontio ac yn egluro'r hyn a fydd yn digwydd ar ôl yr ymgynghoriad hwn, gan gynnwys sut y bydd asesiadau effaith yn cael eu paratoi.
Y llynedd, cyhoeddwyd yr ymgynghoriad 'Brexit a'n Tir' gennym ni. Daeth dros 12,000 o ymatebion i law a chynhaliwyd gwaith ymgysylltu helaeth â ffermwyr a rhanddeiliaid eraill. Rydym ni wedi ystyried yn ofalus y safbwyntiau a gafodd eu mynegi yn ystod yr ymgynghoriad ac rydym ni wedi gwneud nifer o newidiadau i'n cynigion. Mae'r rhain yn cynnwys cydnabod yn benodol y rhyngweithio rhwng cynhyrchu bwyd a chanlyniadau amgylcheddol. Mae hyn yn bwysig. Rydym ni'n cynnig cefnogi'n uniongyrchol gyfraniad economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir eraill. Mae newidiadau pwysig eraill sy'n ystyried y safbwyntiau a fynegir wedi'u nodi yn yr ymgynghoriad.
Er y gall Llywodraeth Cymru gynnig polisi, dim ond ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir eraill sy'n gallu cyflawni newid gwirioneddol ar ein tir, ac mae angen i ni gefnogi eu hymdrechion. Rwy'n cynnig y dylai'r cymorth hwn gael ei gynllunio o amgylch egwyddor datblygu cynaliadwy, sydd wedi'i ymgorffori yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Dyma pam yr ydym ni wedi mabwysiadu rheoli tir yn gynaliadwy yn amcan polisi yn ein cynigion.
Fy uchelgais gyffredinol yw bod â ffermydd cynaliadwy yn cynhyrchu nwyddau economaidd ac amgylcheddol mewn system gyfannol sy'n gwella lles ffermwyr, cymunedau a holl bobl Cymru. Mae rheoli tir yn gynaliadwy yn darparu fframwaith cadarn ar gyfer cymorth yn y dyfodol. Mae'n gosod cynhyrchu bwyd o ansawdd uchel ochr yn ochr â'r swyddogaeth y mae ein ffermwyr yn ei chyflawni wrth gynnal a gwella ein hamgylchedd naturiol a'n cymunedau gwledig. Mae'n adlewyrchu pwysigrwydd rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ac yn darparu cyfleoedd i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ac i gynnal a gwella bioamrywiaeth. Mae mabwysiadu'r amcan hwn yn gam pwysig tuag at weithredu er mwyn cyflawni ein hymrwymiadau i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Er mwyn hwyluso'r broses o gyflawni'r amcan polisi hwn, rwy'n cynnig un cynllun ffermio cynaliadwy. Bydd un cynllun yn caniatáu i ni gefnogi ffermwyr i gynnig cyfleoedd economaidd ac amgylcheddol ar yr un pryd. Mae'n ein helpu i ganfod sefyllfaoedd pan fo pawb ar eu hennill—pethau sy'n dda ar gyfer cynhyrchu bwyd a'r amgylchedd. Mae'r cynllun yn cynnig talu ffermwyr am y canlyniadau amgylcheddol a'r canlyniadau eraill y maen nhw'n eu darparu na werthfawrogir gan y farchnad. Mae'n bosibl cynhyrchu'r canlyniadau hyn ar y cyd â chynhyrchu bwyd drwy ddefnyddio arferion ffermio priodol. Er enghraifft, ar ffermydd, mae rheoli maetholion yn effeithiol a thargedu defnydd gwrtaith yn lleihau'r llygryddion sy'n gollwng i'n hawyr a'n cyrsiau dŵr, a bydd hynny'n gwella ansawdd yr aer a'r dŵr. Gallwn dalu am y canlyniadau amgylcheddol hyn. Byddai talu am ganlyniadau amgylcheddol a gyflwynir drwy arferion ffermio priodol yn sicrhau bod gan bob math o fferm y potensial i ymuno â'r cynllun os ydyn nhw'n dymuno. Mae hyn yn hanfodol bwysig oherwydd mae'n bosibl y bydd llawer o ffermwyr yn dibynnu ar y cynllun newydd i wneud elw, yn union fel y maen nhw'n ei wneud â'r cynllun taliad sylfaenol presennol.
Bydd y taliadau hyn yn darparu llif incwm blynyddol ystyrlon a sefydlog i ffermwyr. Fodd bynnag, nid yw ffrwd incwm yn unig yn ddigon. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnig amrywiaeth o gymorth i fusnesau, gan gynnwys meithrin gallu a sgiliau busnes, buddsoddiad cyfalaf i wella cynaliadwyedd a throsglwyddo gwybodaeth. Bydd y pecyn cymorth hwn yn cynnal ac yn sicrhau y cyfraniad cymdeithasol pwysig y mae ffermwyr yn ei wneud i ffyniant cymunedau cefn gwlad drwy gadw ffermwyr ar y tir.
Mae hyn yn arbennig o berthnasol o ran ymateb i her y newid yn yr hinsawdd. Ar 29 Ebrill, fe wnes i ddatgan bod argyfwng hinsawdd yng Nghymru. Bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio arnom ni i gyd ac nid yw ffermio yng Nghymru yn wahanol yn hynny o beth. Mae'n hollbwysig ein bod yn mynd i'r afael â chanlyniadau newid yn yr hinsawdd os ydym ni'n mynd i allu trosglwyddo ein diwydiant ffermio ffyniannus yng Nghymru i genedlaethau'r dyfodol. Mae ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir eraill mewn sefyllfa unigryw i ymateb i'r argyfwng yn yr hinsawdd. Er enghraifft, mae priddoedd Cymru yn storio 410,000,000 tunnell o garbon. Mae angen inni gynnal y stoc hon a gweithio i'w datblygu ymhellach. Bwriad y cynigion yn yr ymgynghoriad yw gwobrwyo ffermwyr sy'n rheoli eu tir yn y ffordd bwysig hon.
Rwy'n edrych ymlaen at ymgysylltu â'r cyhoedd a rhanddeiliaid yn ystod y misoedd nesaf, yn enwedig yn y broses arfaethedig o gynllunio ar y cyd. Mae cynllunio ar y cyd yn gyfle i archwilio agweddau mwy ymarferol ar y cynllun arfaethedig. Bydd yn rhaid inni sicrhau bod y cynllun hwn yn hygyrch ac yn realistig i ffermwyr ei weithredu. Bydd eu barn nhw ar yr agweddau hyn yn hollbwysig. Caiff yr ymatebion i'r ddogfen ymgynghori a'r rhaglen gynllunio ar y cyd eu hystyried yn ofalus. Yna byddwn ni'n pennu ac yn nodi'r camau nesaf pan fyddwn wedi gallu ystyried yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad yn llawn ac yng ngoleuni datblygiadau Brexit yn ystod y misoedd nesaf.
Rydym ni'n parhau i alw ar Lywodraeth y DU i ddarparu rhagor o eglurder ar lefel y cyllid amaethyddol a ddychwelir i Gymru ar ôl Brexit. Mae Gweinidogion Cymru yn glir na ddylai gadael yr UE olygu unrhyw leihad yn yr arian sy'n dychwelyd i Gymru. Pab gaiff yr arian ei ddychwelyd, byddwn yn sicrhau bod arian yn cael ei gyfeirio at ffermio, coedwigaeth a chymorth arall i reoli tir, ac na chaiff ei wario mewn mannau eraill.
Mae gwneud y polisi rheoli tir newydd yn realiti ymarferol wrth i'r DU adael y polisi amaethyddol cyffredin yn cynnig her, ond mae'n her sy'n wirioneddol werth ei chyflawni. Rydym ni'n cyflawni'r broses ymgynghori a dylunio yn araf ac yn ofalus, ac yn cynnwys cynifer o ffermwyr a rhanddeiliaid ehangach ag sy'n bosibl. Bydd hyn yn sicrhau bod gennym ni'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth orau sydd ar gael i wireddu ein cynigion ar gyfer datblygu cynaliadwy ym maes amaethyddiaeth.