Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog, oherwydd mae'n bwysig ein bod yn mynd i'r afael â'r holl agwedd. Rwy'n siŵr y byddaf yn bwrw golwg dda arall ar y cynllun gweithredu. Ond fel y gwyddoch, mae gennyf ymrwymiadau cryf i'r diwydiant dur yn fy etholaeth ac mae digwyddiadau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda Ford, wedi tynnu sylw unwaith eto at yr angen i ddatblygu economi amrywiol yn Aberafan, fel nad ydym yn dibynnu ar un cyflogwr yn unig. Mae twristiaeth yn un sector sy'n gallu darparu rhan o'r amrywiaeth honno, ac mae nifer o safleoedd gwych yn fy etholaeth—rwy'n annog unrhyw un i ddod i'r traeth hyfryd, tair milltir o hyd sydd gennym, abaty hanesyddol Margam, neu barc Margam, neu ardal ryfeddol cwm Afan hyd yn oed. Mae'r rhain i gyd yn cynnig cyfleoedd enfawr i gryfhau'r economi leol a hynny drwy gynnig twristiaeth—ar raddfa fawr neu fach.
Un prosiect mawr sydd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar yw parc gwyliau cwm Afan, cysyniad sy'n dangos bod twristiaeth sy'n seiliedig ar weithgareddau'n addas iawn ar gyfer ein topograffi mewn gwirionedd, ac yn un a allai ddod ag adfywiad economaidd i ardal o amddifadedd. Rwy'n cydnabod, fel y crybwyllwyd ddoe, y pryderon difrifol a godwyd ynghylch trafodion ariannol y cwmni sy'n datblygu ac sydd y tu ôl i'r cynllun, ac o ganlyniad, buaswn yn disgwyl i'r rheini gael eu trin yn y ffordd briodol. Fodd bynnag, credaf fod cysyniad y prosiect yn un y dylem ei archwilio ymhellach, gan ei fod yn gallu cynnig cyflogaeth, a chyfleoedd, ac adfywiad i lawer yn fy etholaeth.
Weinidog, a allwch chi gadarnhau yn gyntaf nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi unrhyw arian i'r prosiect hwnnw? Ac a ydych yn cytuno y dylid parhau i ystyried cynigion o'r fath fel cyfle cadarnhaol i adeiladu profiad twristiaeth cryf yn ein cymoedd a chynnig llawer o gyfleoedd i gymunedau, a pha gymorth y gallwch ei roi i brosiectau lleol, llai o faint sy'n gallu ychwanegu at y cynnig twristiaeth yn y cwm?