Twf Economaidd yn Aberafan

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 10 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 1:33, 10 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Mae David Rees yn llygad ei le. Ac mae'r cyfle, nid yn unig yng nghwm Afan, ond yng nghymoedd Castell-nedd hefyd, i ddatblygu twristiaeth, yn anhygoel. Ac rwy'n dal i'w ystyried yn gyfle a gollwyd. Mae'r hyn sydd ar gael ym mwrdeistref Castell-nedd Port Talbot yn anhygoel. Mae'n amlwg ein bod wedi cael ein taro gan newyddion drwg yn ddiweddar, nid yn unig mewn perthynas â'r erthyglau papur newydd rydych wedi cyfeirio atynt, ond y newyddion trist am Jistcourt hefyd, felly gallem wneud gyda newyddion da. A allech chi ddweud wrthyf pryd oedd y tro diwethaf i chi gael diweddariad gan fwrdd bargen ddinesig bae Abertawe am y cynnydd tuag at y ganolfan arloesi dur genedlaethol?