Gwasanaethau Rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 10 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:00, 10 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb, yn enwedig o ran capasiti. Codwyd problem gorlenwi ar y rheilffyrdd gyda'r Prif Weinidog yn y lle hwn ddoe. Yn anffodus, nid un achos o'r broblem a welwyd. Mae etholwyr o bob rhan o ranbarth y canolbarth a'r gorllewin wedi bod yn cysylltu â mi i nodi pryderon gwirioneddol am y rheilffordd sy'n rhedeg ar draws canolbarth Cymru i'r Amwythig yn fwyaf arbennig. Ymhlith yr enghreifftiau roedd achosion o oedi'n amrywio o 30 munud i awr fel mater o drefn ynghyd â diffyg cynyddol o gerbydau a seddi ar y trenau hynny—dywedodd un etholwr ei fod wedi cyfrif 26 o bobl yn sefyll mewn un cerbyd—ac yn amlwg, rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi nad yw hyn yn dderbyniol ac mae'n anffodus mai dyma'r un mathau o gwynion a glywsom o dan y fasnachfraint flaenorol. Fis Gorffennaf diwethaf, rhoddodd y Gweinidog fanylion i ni am y cytundeb masnachfraint newydd sy'n mynnu y bydd Trafnidiaeth Cymru yn cael ei chosbi os bydd teithwyr yn cael eu gorfodi i sefyll am fwy nag 20 munud. A allai'r Gweinidog dawelu meddyliau fy etholwyr y bydd yr ymrwymiad hwnnw i leihau'r nifer sy'n gorfod sefyll ar drenau yn cael ei anrhydeddu ac a allai roi rhyw fath o syniad i ni o'r amserlen ar gyfer y capasiti ychwanegol y soniodd wrthyf amdano yn ei ateb gwreiddiol?