Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi mai un ffordd o wella gwasanaethau rheilffordd i bobl sy'n byw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yw lleihau amseroedd teithio. Nawr, byddai parcffordd arfaethedig gorllewin Cymru i'r gogledd o Abertawe yn sicrhau bod amser teithio hyd at 15 munud yn llai bob ffordd i gymudwyr sy'n teithio o fy etholaeth i Gaerdydd drwy gael gwared ar yr angen i deithio drwy ganol Abertawe. Gallai annog newid moddol o'r car i'r trên hefyd a byddai hynny, yn ei dro, yn helpu i leihau tagfeydd ar ffyrdd allweddol yn y rhanbarth yn ogystal. Felly, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y prosiect arfaethedig hwn, a pha drafodaethau rydych yn eu cael fel Llywodraeth mewn perthynas â'r cynllun arfaethedig hwn?