Rheilffordd y Cambrian

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 10 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:06, 10 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i wella gwasanaethau ar reilffordd y Cambrian. Mae trenau cyfredol yn cael eu haddasu i wella mynediad ar gyfer pobl anabl, a bydd trenau newydd sbon yn cymryd lle'r fflyd gyfan erbyn 2022. Mae gwelliannau mewn perthynas ag amlder gwasanaethau hefyd yn cael eu cynllunio ar hyd y llinell.