Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
A gaf fi, os gwelwch yn dda, Lywydd, wirio a yw'r ardal benodol honno'n rhan o'r 600 o safleoedd rydym yn eu hasesu ar hyn o bryd o dan yr adolygiad terfynau cyflymder? Mae'n ddigon posibl ei bod, ond fe edrychaf a rhoi gwybod i'r Aelod. O ran y cwestiwn arall a ofynnodd, gallaf gadarnhau y bydd y cynllun lliniaru sŵn yn cael ei gyflwyno rhwng Rhaglan a'r Fenni yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Rwyf hefyd yn falch o roi gwybod i'r Aelod y bydd cynllun pont Gwy yr A40, sy'n werth £4 miliwn, yn lleihau'r tagfeydd ar yr A40 sy'n dod i mewn i Gymru, yn ogystal â gwella'r llif traffig yn Nhrefynwy. Rydym yn buddsoddi cymaint ag y gallwn gydag adnoddau prin i sicrhau bod gennym well cysylltedd ar draws Cymru.