Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol y bydd y costau terfynol ar gyfer deuoli ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd yn fwy na £2 biliwn—mwy na'r cynlluniau a wrthodwyd ar gyfer ffordd liniaru'r M4. Bydd rhan olaf y ffordd honno, sef yr 16 milltir diwethaf, yn fwy na'r cyfanswm y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wario ar fetro de Cymru. Nawr, rwy'n cefnogi'r ffordd, rwy'n credu ei bod wedi gwneud pethau gwych i wella diogelwch ac mae ganddi botensial economaidd mawr. Cafwyd rhai manteision ymylol i'r cymunedau lleol yn ystod y cyfnod adeiladu, ond yr hyn yr hoffwn ei ofyn i chi yw: beth yn fwy y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, wrth symud ymlaen, i sicrhau bod y cymunedau hynny yn y Cymoedd gogleddol, sef rhai o'n hardaloedd mwyaf difreintiedig, yn gallu elwa ar yr ased economaidd anferth hwn?