Part of the debate – Senedd Cymru am 7:18 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Diolch. A gaf fi ofyn a fyddai'r Llywodraeth yn ystyried edrych ar effaith y ffaith bod menywod yn gorfod gweithio'n llawer hwy erbyn hyn ar argaeledd gofal, neu yn yr un modd os oes rhaid iddynt roi'r gorau i weithio, eu hargaeledd i ailymuno â'r gweithlu? Felly, nid dim ond y gofalwyr eu hunain a allai orfod wynebu'r newidiadau hynny, ond yr effaith ganlyniadol yn yr uned deuluol.