Fframweithiau Cyffredin y DU

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 10 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:20, 10 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol bod hwn yn fater a drafodwyd gyda'r Prif Weinidog yn y pwyllgor materion allanol ddydd Llun. Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb llawn iawn i'r cwestiwn hwnnw. Onid yw'n rhannu fy mhryder ein bod, wrth greu fframweithiau cyffredin, bron yn creu gwladwriaeth gudd o fewn y Deyrnas Unedig lle mae llawer o benderfyniadau'n cael eu gwneud heb graffu cyhoeddus a thu hwnt i gyrraedd y cyhoedd? A yw'n rhannu'r pryder ein bod yn gweithio heb unrhyw fframwaith, fel petai, ar gyfer y fframweithiau cyffredin, ac o'r herwydd, yr hyn sydd ei angen i sicrhau bod craffu cyhoeddus yn digwydd a hyder cyhoeddus yn y system hon yw strwythur statudol sy'n gosod y sylfaen ar gyfer y fframweithiau hyn ar sail gyfreithiol, ac sy'n hwyluso atebolrwydd democrataidd rhyngsefydliadol a chraffu ar waith y fframweithiau hyn a'r Deyrnas Unedig newydd sydd fel pe bai'n cael ei chreu y tu ôl i len?