Cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer Brexit

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 10 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:02, 10 Gorffennaf 2019

Wel, dydw i ddim yn gwybod. Mae'n dibynnu ar y Prif Weinidog newydd. Rwyf wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig dro ar ôl tro i rannu gwybodaeth ar baratoadau ar gyfer pob canlyniad Brexit posib. Mae'r llif gwybodaeth wedi gwella, yn enwedig o ran paratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb, ond dyw e ddim yn berffaith o hyd.