Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Mae gennyf gyfarfodydd, wedi'u trefnu ac yn fy nyddiadur. Ond fel yr eglurais i'r Aelod, mae cael sylw gan Weinidogion Llywodraeth y DU i bennu'r gyfres o gyfarfodydd y byddai rhywun am eu gweld dros yr wythnosau i ddod wedi bod yn her gan fod Llywodraeth y DU yn amlwg yn wynebu newid arwyddocaol iawn o ganlyniad i newid Prif Weinidog.