Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Mae'r anhrefn yn Llywodraeth y DU yn golygu ei bod yn eithriadol o anodd trefnu cyfarfodydd yn ystod y toriad, ac mae dechrau'r broses honno'n cyd-daro â phenodi Prif Weinidog newydd. Rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog newydd yn parhau â'r arfer o wahodd Llywodraeth Cymru i gael ei chynrychioli yng nghyfarfodydd Cabinet y DU pan fyddant yn trafod parodrwydd ar gyfer Brexit, ac rydym yn barod i ddod i'r cyfarfod yn ystod y toriad a thu hwnt. Yn ystod yr wythnosau nesaf byddwn yn canolbwyntio ar barhau i baratoi ar gyfer y posibilrwydd o Brexit 'dim bargen', a fyddai'n drychinebus, yn groes i farn y rhai sy'n dymuno bod yn Brif Weinidog Ceidwadol nesaf.