4. Datganiadau 90 Eiliad

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 10 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:24, 10 Gorffennaf 2019

Ar 20 Gorffennaf 1969, mi laniodd dyn ar y lleuad a, 50 mlynedd yn ddiweddarach, dwi am gofio'r digwyddiad, ie, fel naid enfawr i ddynoliaeth, ond hefyd fel cam rhyfeddol yng ngyrfa dyn o Ynys Môn a oedd yn un o brif benseiri'r glaniad.

Yn Llanddaniel y ganwyd Tecwyn Roberts yn 1925. Ar ôl dechrau ei yrfa fel prentis yn ffatri awyrennau Saunders-Roe ar gyrion Biwmares, ac wedyn ennill gradd mewn peirianneg, mi aeth o draw i ogledd America i fyw. Mi wnaeth yrfa iddo fo'i hun yn y maes awyr ofod yng Nghanada, yn gyntaf, cyn ymuno â NASA yn 1959, lle cafodd ei allu ei ddefnyddio i'r eithaf wrth drio gwireddu gweledigaeth Kennedy. Fo lywiodd y gwaith o greu mission control a'i systemau cyfathrebu a rheoli newydd oedd eu hangen ar gyfer rhaglen glanio ar y lleuad.

Ar ddiwrnod y glanio ei hun, mi oedd ei rôl o'n gwbl allweddol. Fyddai Armstrong ac Aldrin ddim wedi glanio hebddo fo. Yng nghanol yr ocheneidiau o ryddhad, mi oedd yna un dyn o Sir Fôn yn gwybod bod ei waith o wedi cael ei wneud—ar wahân i gael y gofodwyr yn ôl adref, wrth reswm. Mae hi'n stori ryfeddol, a dwi'n edrych ymlaen at ddysgu mwy mewn rhaglenni arbennig efo Tudur Owen ar S4C a Radio Cymru yn y dyddiau nesaf. Mae'n addas iawn bod y cloc yn cyfrif lawr ar ddiwedd fy 90 eiliad—tri, dau, un. [Chwerthin.] Efallai fy mod i'n bersonol wedi methu tystio i'r glanio o ryw dair blynedd, ond mi oedden ni yno—mi oedd Cymru yno, mi oedd Ynys Môn yno—drwy Tecwyn Roberts, y peiriannydd o Fôn aeth â'r byd i'r lleuad.