Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Mae'n bleser gennyf ddechrau'r ddadl heddiw ar egwyddorion cyffredinol Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). Dwi'n ddiolchgar i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Cyllid am drafod y Bil yn drylwyr ac i bawb sydd wedi cymryd rhan wrth ddatblygu'r hwn a'i waith craffu. Byddaf yn ymateb yn ysgrifenedig i'r argymhellion a wnaed gan y ddau bwyllgor yn llawn ac mewn da bryd ond mi wnaf ymateb i rai'r prynhawn yma hefyd. Mae nifer o argymhellion i Gomisiwn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru, a chefais drafodaethau adeiladol gyda’r Cwnsler Cyffredinol am yr argymhellion hynny'r wythnos diwethaf.
Cyn troi at argymhellion allweddol y pwyllgorau, hoffwn ailadrodd mai amcan cyffredinol y Bil hwn yw creu Senedd fwy effeithiol a hygyrch, gan sicrhau bod fframwaith ein democratiaeth yn addas at y diben, gan gofio bod cwmpas pwerau'r Cynulliad yma wedi cynyddu'n sylweddol ers ei sefydlu gyntaf yn 1999. Mae'r Bil hwn yn gam sylweddol i'r cyfeiriad hwnnw, ac rwy’n croesawu’r ffaith bod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi argymell bod y Cynulliad yn cytuno ar ei egwyddorion cyffredinol. Byddaf yn trafod y gwahanol rannau yn y drefn y maent yn ymddangos yn y Mesur.
Newid enw'n gyntaf: mae'r dystiolaeth a gafodd y pwyllgorau'n adlewyrchu'r gefnogaeth sylweddol am newid enw'r Cynulliad. Pan fydd y sefydliad hwn yn dathlu 21 o flynyddoedd ers ei sefydlu'r flwyddyn nesaf, rwy'n hyderus y byddwn yn rhoi enw newydd iddo sy'n adlewyrchu'n gywir ei statws fel deddfwrfa genedlaethol i Gymru. Cyflwynwyd safbwyntiau gwahanol yn ystod Cyfnod 1 ynghylch yr hyn y dylai'r enw newydd fod a sut y dylid geirio'r ddeddfwriaeth gysylltiedig. Roeddwn wedi rhagweld y byddai'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn mynegi safbwynt ar y dystiolaeth a gafwyd ar y materion hynny. Rwy’n tybio y bu gan aelodau’r pwyllgor safbwyntiau gwahanol ar y mater, ac mi fyddwn wedi elwa o weld y rhain yn cael eu hamlinellu yn yr adroddiad.
Mae’r Bil yn cynnig bod enw'r Cynulliad yn cael ei newid i 'Senedd', ac y gall y Senedd honno hefyd cael ei galw'n 'Welsh Parliament'. Gan nad yw’r pwyllgor wedi awgrymu enw gwahanol, nid ydw i’n gweld rheswm dros ddiwygio’r rhan hon o’r Bil. Erbyn hyn, mater, felly, i'r Aelodau yn y Siambr hon yw penderfynu beth ddylai'r enw hwnnw fod. Nid mater o newid dim ond enw’r sefydliad ei hun yw hyn, ond o adlewyrchu ei statws yn enwau’r Aelodau hefyd. Mae yna symlrwydd gosgeiddig i’r enw 'Senedd' a’n galw ni’n 'Aelodau o’r Senedd—Members of the Senedd'.
Mae'r Bil hefyd yn cynnig gostwng yr oedran pleidleisio i 16. Rwy'n falch bod cefnogaeth glir y cyhoedd a fynegwyd yn ymgynghoriad 'Creu Senedd i Gymru' wedi'i hadlewyrchu yn y dystiolaeth a roddwyd i'r pwyllgorau ar y mater yma. Mae datblygu'r rhan hon o'r Bil wedi bod yn ymdrech ar y cyd â Llywodraeth Cymru, gan adlewyrchu ei bod hefyd yn bwriadu gostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau llywodraeth leol. Rwy'n ddiolchgar am eu cefnogaeth i sicrhau dull cydweithredu cyson ar hyn.
Mae'n briodol bod y pwyllgorau wedi pwysleisio pwysigrwydd addysg am ddinasyddiaeth a gwleidyddiaeth er mwyn sicrhau y caiff pobl ifanc eu hannog i arfer eu hawl i bleidleisio. Ers i mi roi tystiolaeth i’r pwyllgorau, mae cyfrwng strategol y gwaith hwn, sef grŵp adnewyddu democrataidd Llywodraeth Cymru, wedi ei sefydlu ac wedi cwrdd. Bydd cyrff sifig, gan gynnwys ysgolion a sefydliadau ieuenctid, yn cymryd rhan yn y gwaith dan arweiniad y grŵp yma.
Mae sawl argymhelliad yn gofyn am fwy o wybodaeth am gyfrifoldebau, cyllid a chostau am weithredu’r gostwng oedran pleidleisio. Byddaf, wrth gwrs, yn hapus i wneud hyn ac i ddiweddaru’r asesiad costau cyn Cyfnod 3. Rwyf wedi trafod y pwyntiau a godwyd gan y pwyllgorau gyda'r Cwnsler Cyffredinol, a fydd yn ymateb i'w hargymhellion gyda rhagor o wybodaeth.
Gan droi nawr at gyllid ac atebolrwydd y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru, trosglwyddodd Deddf Cymru 2017 gyfrifoldeb am etholiadau datganoledig Cymru i'r Cynulliad hwn. Rwy'n credu bod angen meithrin perthynas newydd, felly, rhwng y Cynulliad a rheoleiddiwr yr etholiadau hynny, sef y Comisiwn Etholiadol, cyn etholiad nesaf y Cynulliad. Rwy'n meddwl bod mwyafrif yr Aelodau'n rhannu'r farn honno. Mae adran 27 o'r Bil yn paratoi'r ffordd ar gyfer y berthynas newydd honno. Fel y gŵyr yr Aelodau, eglurais fy mod yn rhagweld y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn cyflwyno gwelliannau i'r adran hon. Nid yw’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn fodlon ar y dull gweithredu yma. Yn yr un modd, mae'r Pwyllgor Cyllid yn gofyn bod gwelliannau drafft yn cael eu cyflwyno cyn trafodion Cyfnod 2. Rwy'n deall nad yw hyn oll yn ddelfrydol. Byddai wedi bod yn well gennyf gynnwys cynigion sydd wedi'u ffurfio'n llawn yn y Bil cyn ei gyflwyno neu wrth ei gyflwyno, ond nid oedd hynny'n bosib gan y byddai oedi wedi golygu colli'r cyfle i wneud newidiadau cyfansoddiadol pwysig erbyn etholiad nesaf y Cynulliad yn 2021, megis, yn enwedig, gostwng yr oedran pleidleisio.
Argymhellodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y dylid bwrw ymlaen â hyn drwy’r Bil llywodraeth leol yn lle hynny. Rwyf wedi trafod hyn gyda'r Cwnsler Cyffredinol, a, serch hynny, mae’n debyg mai'r Bil Senedd ac etholiadau yw’r cyfrwng deddfwriaethol mwyaf addas ar gyfer cyflawni’r newid yma yn barod at etholiadau 2021.
Rwyf wedi cael trafodaethau adeiladol â'r Cwnsler Cyffredinol o ran pa wybodaeth ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru ei rhannu cyn cychwyn trafodion Cyfnod 2 mewn ymateb i argymhelliad y Pwyllgor Cyllid. Rwyf wedi egluro wrth y pwyllgorau fy rhesymeg dros gynnig y dylai’r Comisiwn Etholiadol fod yn atebol i bwyllgor newydd wedi'i gadeirio gan y Llywydd. Gwn fod y sefydliadau Cymreig eraill a gaiff eu hariannu’n uniongyrchol o gronfa gyfunol Cymru yn atebol i’r Pwyllgor Cyllid, a gwerthfawrogaf bryderon y Pwyllgor Cyllid ynghylch sefydlu trefn wahanol ar gyfer y Comisiwn Etholiadol. Ond er mwyn sicrhau cysondeb â’r trefniadau mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, ac yn unol â dymuniad y Comisiwn Etholiadol hefyd, credaf mai sefydlu pwyllgor newydd fyddai'n addas yn yr achos yma.
Pe bai hynny’n digwydd, byddwn, wrth gwrs, yn cymryd camau i fynd i’r afael â rhai o bryderon y Pwyllgor Cyllid. Er enghraifft, awgrymaf y gallai Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid fod yn aelod o’r pwyllgor newydd er mwyn rhoi llais i’r Pwyllgor Cyllid wrth graffu ar waith y Comisiwn Etholiadol a sicrhau cysondeb gyda datganiad o egwyddorion y Pwyllgor Cyllid. Rwyf wedi dechrau trafod hyn gyda Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid, a dwi'n edrych ymlaen at ragor o drafodaethau yn ystod Cyfnod 2.
Gan symud ymlaen i’r adran ar anghymhwyso: yn ganolog i'r adran hon mae’r egwyddor y dylid caniatáu i gynifer o bobl â phosib sefyll mewn etholiadau. Roeddwn yn falch o weld cefnogaeth y pwyllgorau i'r agweddau hyn ar y Bil, a byddaf yn ystyried y pwyntiau penodol y maent wedi'u gwneud.
Mae'r Bil hefyd yn cynnwys darpariaethau i alluogi Gweinidogion Cymru i weithredu argymhellion ar ddiwygio cyfraith etholiadol a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith. Er y cafwyd cefnogaeth i egwyddor diwygiadau o'r fath, mynegwyd pryderon ynghylch eu dull gweithredu. Felly, byddaf yn derbyn yr argymhelliad ac yn dileu adran 36 o'r Bil.
At ei gilydd, rwy'n gryf o'r farn bod y diwygiadau a gyflwynwyd yn y Bil hwn yn newidiadau cyfansoddiadol pwysig i gryfhau cyfranogiad democrataidd yng Nghymru a gwneud gwelliannau gweithredol i'n Senedd genedlaethol. Gyda'i gilydd, maent yn cyfrannu at greu Senedd i Gymru sy'n addas at y diben am yr 20 mlynedd nesaf a mwy, a dwi'n edrych ymlaen y prynhawn yma at glywed barn fy nghyd-Aelodau.