Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Nodwyd bod y Cwnsler Cyffredinol yn ystyried diwygio'r Bil gan ddefnyddio geiriad a allai fod mewn perygl o gael ei herio ac am y rheswm hwnnw ac er mwyn osgoi amheuaeth, credwn y dylai Llywodraeth Cymru ofyn i Lywodraeth y DU gyflwyno Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol fel nad yw'r risg o her yn codi mwyach.
Mae pleidleisio a chymryd rhan yn y broses ddemocrataidd yn ganolog i gymdeithas iach a gweithredol, ac felly rydym wedi cefnogi gostwng yr oedran pleidleisio i 16 ar gyfer etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol, fel y darperir ar ei gyfer yn Rhan 3 o'r Bil. Yn ein barn ni, mae gostwng yr oed pleidleisio i 16 yn gyfle i sicrhau cymdeithas sy'n ymgysylltu'n well â'r broses ddemocrataidd dros y tymor hir a dylid croesawu hynny. Rydym yn argyhoeddedig y bydd gostwng yr oedran pleidleisio yn galw am godi ymwybyddiaeth a chymorth addysgol digonol er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn defnyddio'r cyfle hwn. Am y rheswm hwnnw, rydym yn pryderu ei bod hi'n ymddangos nad oes cynllun gweithredu cydlynol ar gael i sicrhau pleidlais i rai 16 oed yn barod ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn 2021. Yn ein barn ni, Lywydd, nid oedd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Addysg yn ddigon clir ynghylch eu cynlluniau ar gyfer codi ymwybyddiaeth ac addysg. Os yw pobl 16 ac 17 oed i arfer eu hawl i bleidleisio yn 2021, mae angen cynllun clir, cydlynol, wedi'i amserlennu a'i gostio ar gyfer codi ymwybyddiaeth ac addysg ddinesig ar frys.
Rydym yn cydnabod bod gwaith ar y gweill i gydlynu gweithgarwch yn ffurfiol drwy grŵp rhanddeiliaid, fel y crybwyllwyd. Er y croesewir ei gydweithrediad, nid ydym yn glir o hyd beth yw cyfansoddiad, cyfrifoldebau ac amserlen weithredol y grŵp rhanddeiliaid; edrychwn ymlaen at weld y manylion pellach y mae'r Llywydd wedi nodi y byddant yn cael eu darparu yn yr ymateb i hyn. O ystyried y dylanwad posibl a allai fod gan y grŵp rhanddeiliaid, argymellasom y dylai'r Llywydd gyhoeddi aelodaeth a chylch gorchwyl y grŵp rhanddeiliaid, gan gynnwys y cerrig milltir allweddol a'r amserlenni ar gyfer cyflawni, ac wrth gwrs, mae'r Llywydd wedi cyfeirio at hyn. Yn dilyn ymlaen o hyn, argymhellwyd y dylai'r grŵp rhanddeiliaid baratoi cynllun gweithredu ar gyfer cydlynu'r holl waith sy'n ymwneud â pharatoi ymgyrch godi ymwybyddiaeth a deunyddiau addysgol ar gyfer etholiad y Cynulliad yn 2021, gan nodi'n glir y llinellau atebolrwydd yn ogystal â chyfrifoldeb am baratoi ffrydiau gwaith penodol.
Rydym yn cytuno â'r Llywydd a Llywodraeth Cymru na ddylai'r Bil gynnwys dyletswyddau penodol mewn perthynas â materion addysgol. Fodd bynnag, rydym o'r farn fod angen canllawiau i sicrhau darpariaeth addysgol ddigonol a chyson ledled Cymru i'r perwyl hwnnw, a chroesawyd ymrwymiad y Gweinidog Addysg yn ystod y sesiynau tystiolaeth i ystyried y mater hwn ymhellach yn dilyn cyngor gan y grŵp rhanddeiliaid. Felly, argymellasom y dylai'r Gweinidog Addysg gyhoeddi datganiad yn egluro sut y caiff dinasyddiaeth ac addysg wleidyddol eu cyflwyno mewn pryd ar gyfer etholiad y Cynulliad yn 2021, gan gynnwys yr amserlen ar gyfer unrhyw ganllawiau cysylltiedig y mae'n bwriadu eu cyhoeddi. Argymellasom hefyd y dylai'r Llywydd gyhoeddi datganiad ysgrifenedig cyn gynted â phosibl yn nodi'r cyllid sy'n cael ei ddarparu gan bob corff sy'n cyfrannu at godi ymwybyddiaeth ac addysg yn barod ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn 2021.
Hoffwn roi sylw'n fyr yn awr i faterion sy'n ymwneud â'r broses gofrestru etholiadol. Mae angen i'r trefniadau gweinyddol sy'n galluogi pobl ifanc 16 ac 17 oed i bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad yn 2021 weithredu'n effeithlon er mwyn sicrhau nad yw profiad pleidleiswyr newydd yn un negyddol. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried y gall pleidleisio yn yr etholiad cyntaf y mae rhywun yn gymwys i bleidleisio ynddo effeithio ar eu tuedd i bleidleisio yn y dyfodol. Daeth yn amlwg inni fod angen mwy o eglurder ynglŷn â phwy sy'n arwain a chydlynu'r newidiadau sydd eu hangen i sicrhau bod y rhai sy'n ennill hawl i bleidleisio'n cael eu cofrestru ac yn gallu arfer eu hawl i bleidleisio yn 2021. Mae angen eglurder hefyd ynghylch ariannu'r newidiadau sydd eu hangen. Felly, argymellasom y dylai'r Llywydd gyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn nodi pwy sydd â'r cyfrifoldebau dros yr holl newidiadau sydd eu hangen ar gyfer y prosesau gweinyddu a chofrestru etholiadol, yn ogystal â mynd i'r afael ag ariannu'r newidiadau.
Hoffwn roi sylw yn awr i adran 27 y Bil, ynghylch goruchwylio'r Comisiwn Etholiadol gan y Cynulliad Cenedlaethol. Cytunwn â'r Llywydd, y Cwnsler Cyffredinol a'r Comisiwn Etholiadol y dylai'r Comisiwn Etholiadol yng Nghymru fod yn atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol fel mater o egwyddor. Fodd bynnag, rydym o'r farn y dylid bod wedi cynnwys darpariaethau wedi'u datblygu'n llawn yn y Bil wrth ei gyflwyno, yn hytrach na'r dull sy'n cael ei awgrymu yn awr o gael gwelliannau yng Nghyfnodau 2 a 3. Roedd yr ohebiaeth a gawsom gan y Llywydd a'r Cwnsler Cyffredinol am adran 27 tua diwedd Cyfnod 1 yn atgyfnerthu her y dasg hon: bydd angen i'r gwelliannau sydd i'w gwneud i'r Bil fod yn sylweddol ac yn gymhleth.
Rydym yn cydnabod y byddai'n well yn gyfansoddiadol pe bai trefniadau ar waith cyn etholiad y Cynulliad yn 2021. O dan yr amgylchiadau, argymhellwyd y dylai darpariaethau'n nodi'r trefniadau manwl ar gyfer goruchwylio'r Comisiwn Etholiadol yng Nghymru gan y Cynulliad Cenedlaethol gael eu dileu o'r Bil ac yn absenoldeb Bil annibynnol, dylid eu cynnwys yn y Bil llywodraeth leol arfaethedig sydd wedi'i addo. Cyfeiriwyd at hyn eisoes, wrth gwrs, yn y sylwadau gan y Llywydd, ond credwn y byddai hyn wedi caniatáu ar gyfer craffu ar y darpariaethau hynny yn ystod proses Cyfnod 1, gan ganiatáu ymgysylltiad â rhanddeiliaid ar fanylion y darpariaethau pwysig hyn. Dyna pam y gwnaethom argymhelliad cyffredinol, gan ailadrodd un a wnaed gan y pwyllgor a'n rhagflaenodd yn ei adroddiad 'Deddfu yng Nghymru', y dylid cyflwyno Biliau i'r Cynulliad Cenedlaethol y gellir ystyried yn rhesymol eu bod wedi'u datblygu'n llawn wrth eu cyflwyno.
Rydym yn croesawu'r cynigion yn Rhan 4 o'r Bil sy'n gweithredu argymhellion gan y pwyllgor a'n rhagflaenodd yn y pedwerydd Cynulliad yn ymwneud ag anghymhwysiad rhag bod yn Aelod Cynulliad. Roedd ein hunig argymhelliad yn ymwneud â'r Llywydd a Llywodraeth Cymru yn sicrhau eu bod yn fodlon ar yr atodlen sy'n rhestru'r categorïau o bobl sydd wedi'u hanghymhwyso a deiliaid swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso. Yn olaf, fel y nodwyd, rhannwn bryderon y Cwnsler Cyffredinol ynghylch rhoi pwerau i Weinidogion Cymru fel y darperir ar eu cyfer yn adran 36 o Ran 5 o'r Bil. Rydym wedi rhybuddio'n gyson yn erbyn defnyddio is-ddeddfwriaeth i weithredu newidiadau polisi sylweddol, ac felly, rydym yn argymell y dylid dileu adran 36 o'r Bil. Rwyf felly'n croesawu sylwadau a chynnig y Llywydd i ddileu adran 36 o'r Bil. Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd.