Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o'r cyfle i gyfrannu at y ddadl yma i amlinellu argymhellion y Pwyllgor Cyllid ar oblygiadau ariannol y Bil yma. Rŷn ni wedi gwneud 15 o argymhellion, ac rwy’n gobeithio y bydd y Llywydd, fel dwi'n siŵr y bydd hi, yn ystyried pob un ohonyn nhw wrth i’r ddeddfwriaeth symud ymlaen. Wrth gwrs, mae hi wedi cyfeirio at rai yn barod, ac mi bigaf i i fyny ar hynny mewn munud. Mae’r pwyllgor yn cydnabod amcanion y Bil, yn enwedig y pwysigrwydd cyfansoddiadol o newid enw’r sefydliad i adlewyrchu ei sefyllfa fel y prif sefydliad democrataidd yng Nghymru. Fodd bynnag, mae ein prif bryderon yn ymwneud â threfniadau ariannu a goruchwylio'r Comisiwn Etholiadol.
Dri diwrnod ar ôl i’r Bil gael ei gyflwyno, fe ysgrifennodd y Llywydd ataf i yn nodi ei bwriad i ddiwygio’r Bil yng Nghyfnod 2 er mwyn sefydlu trefniadau i’r Comisiwn Etholiadol gael ei ariannu gan y Cynulliad, a bod yn atebol iddo, pe bai’r Cynulliad o blaid gwneud hynny. Nawr, mae’r Pwyllgor Cyllid yn amlwg yn siomedig nad oedd y maes polisi hwn wedi’i ddatblygu fwy cyn cyflwyno’r Bil, gan y gallai fod goblygiadau sylweddol o ran cost. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth gyda’r Llywydd, gofynnwyd a oedd bwriad i’r Comisiwn Etholiadol gael ei ariannu’n uniongyrchol o gronfa gyfunol Cymru. Ers hynny, mae’r Llywydd wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i ddweud mai dyma’r opsiwn y mae hi yn ei ffafrio. Mae’r Llywydd hefyd wedi cadarnhau mai’r hyn y mae hi’n ei ffafrio yw bod y Comisiwn Etholiadol yn atebol i bwyllgor y Llywydd.
Pan roedd y Pwyllgor Cyllid yn craffu ar y Bil, doeddem ni ddim yn gallu dod i safbwynt ar ba mor briodol fyddai pwyllgor y Llywydd gan nad oeddem ni'n gwybod sut y byddai’r Comisiwn Etholiadol yn cael ei ariannu. Fel y mae’r Cynulliad yn gwybod, ar hyn o bryd, mae’r Pwyllgor Cyllid yn goruchwylio’r holl gyrff sy’n cael eu hariannu’n uniongyrchol o gronfa gyfunol Cymru a, phe byddai pwyllgor arfaethedig y Llywydd yn ariannu’r Comisiwn Etholiadol yn uniongyrchol ac yn craffu arno fe, yna mae’r Pwyllgor Cyllid, fel y mae'r Llywydd wedi cydnabod, yn pryderu y byddem ni'n colli’r rôl oruchwylio yna o allu sicrhau bod cynigion y gyllideb yn cael eu gosod yng nghyd-destun y cyfyngiadau cyllideb ehangach yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Mae'r Llywydd, wrth gwrs, wedi nodi nawr ei bwriad, os caiff pwyllgor y Llywydd ei sefydlu i graffu ar y Comisiwn Etholiadol—ei bod hi'n debygol neu'n bosib y gallai Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid fod yn rhan o’r pwyllgor hwnnw. Dwi'n cydnabod hynny fel cam positif, ac yn sicr mai hynny yn rhywbeth y bydd y Pwyllgor Cyllid yn awyddus i'w drafod ymhellach. Dwi hefyd wedi ysgrifennu at y Llywydd yn gofyn am ragor o wybodaeth ynghylch ariannu’r Comisiwn Etholiadol. Dwi'n gobeithio y bydd y Llywydd yn rhoi cyfle i’r Pwyllgor Cyllid ystyried goblygiadau cost unrhyw ddiwygiadau cyn trafodion Cyfnod 2.
Dwi nawr am droi at rai o'n hargymhellion eraill ni fel pwyllgor. O ran newid yr enw o Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r Senedd, a fyddai'n digwydd ym mis Mai 2020, rŷm ni’n cydnabod bod y Bil fel y mae hi yn cymryd, neu'n trio cymryd, ryw ddull prudent—dyna dwi'n credu yw'r gair—tuag at wneud hynny, ac na ddilynwyd opsiynau drutach posib. Fodd bynnag, dŷn ni yn pryderu na fydd yr holl arwyddion, er enghraifft, yn cael eu newid ar y dyddiad hwn, ac y gall rhai cael eu newid mor hwyr â mis Mai 2021, i gyd-fynd, wrth gwrs, ag etholiadau nesaf y Cynulliad. Er ein bod ni'n gweld manteision ariannol yn hynny o beth, rŷm ni yn pryderu efallai y gallai hyn arwain at rywfaint o ddryswch ymhlith y cyhoedd, gyda rhai arwyddion yn newid nawr a rhai yn hwyrach. Rŷm ni yn argymell, beth bynnag, fod y Llywydd a Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos er mwyn sicrhau bod cyfathrebu clir â’r cyhoedd ynghylch newid yr enw.
Fel rhan o’n gwaith craffu ar y Bil, roeddem ni'n awyddus hefyd i edrych ar ffyrdd o leihau costau cynnal etholiadau. O ystyried cynnig Llywodraeth Cymru i gyflwyno Bil llywodraeth leol, mae hwn, dwi'n meddwl, yn gyfle da i ni, efallai, amlygu rhai o'r materion pwysig yma. Rydym wedi gwneud nifer o argymhellion rŷm ni'n gobeithio y bydd y Llywodraeth a'r Llywydd yn eu hystyried, ac yn gweithio gyda’i gilydd i symleiddio etholiadau ac i beidio ychwanegu at gymhlethdodau’r system bresennol. Mae’r argymhellion, er enghraifft, yn cynnwys ystyried cael un gofrestr etholiadol ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru ac etholiadau’r Cynulliad, yn hytrach na chael 22 o gofrestri ar wahân; a hefyd, y posibilrwydd o gael cofrestru awtomatig. Er enghraifft, gallai pobl ifanc 16 oed gael eu cofrestru’n awtomatig i bleidleisio pan fyddan nhw yn derbyn eu rhif yswiriant gwladol. Rŷn ni'n credu hefyd y dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad o’r ffioedd sy'n cael eu talu i swyddogion canlyniadau fel rhan o’r uchafswm lwfans adenilladwy, gyda'r bwriad, wrth gwrs, o ystyried a ellir gwneud arbedion.
Yn olaf, gan droi at weithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith, dwi’n falch o glywed fod y Llywydd wedi ymrwymo i ddileu adran 36 o’r Bil. Rŷm ni'n cytuno â’r Cwnsler Cyffredinol nad yw hi'n briodol i Weinidogion Cymru newid cyfraith etholiadol drwy is-ddeddfwriaeth, gan y gallai hyn, wrth gwrs, arwain at ddiwygiadau yn cael eu gwneud heb waith craffu digonol, ac rŷm ni'n falch bod y Llywydd yn ystyried hynny. Felly, gyda hynny o sylwadau, gaf i ddweud ein bod ni'n edrych ymlaen at barhau i ymwneud â thaith y Bil yma drwy'r Cynulliad? Diolch yn fawr iawn i chi am eich gwrandawiad.