Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Ddirprwy Lywydd, gobeithio y maddeuwch i mi am ddechrau mewn hwyliau ychydig yn fwy dathliadol gan mai pwrpas canolog y Bil hwn o'm rhan i yw ymestyn yr etholfraint i grŵp pwysig iawn o bobl ac i mi, roedd y profiad o weld sut oedd pobl ifanc 16 a 17 oed wedi cyfrannu at refferendwm yr Alban yn 2014 yn gadarnhad go iawn fod hwn yn gam cadarnhaol. Yn hytrach na bod yn ddifater, fe wnaethant fachu ar y cyfle. Canfu arolwg ar ran y Comisiwn Etholiadol fod 75 y cant o bobl ifanc 16 a 17 oed wedi pleidleisio yn y refferendwm hwnnw. Aeth miloedd o bobl ifanc nad oeddem yn credu bod ganddynt ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth i'r gorsafoedd pleidleisio gyda'u rhieni a'u neiniau a'u teidiau er nad oedd ganddynt unrhyw brofiad blaenorol o wneud hynny.
Ond y profiad hwnnw, a'r modd y gwnaethant gymryd rhan yn y dadleuon a oedd yn cydredeg â'r refferendwm, a ysbrydolodd lawer o Geidwadwyr yn yr Alban i gefnogi'r achos hwn, a chredaf ei fod yn beth pwysig iawn i'w gofio—sut y gwnaeth y pleidleiswyr newydd ymddwyn a dangos bod ganddynt gymaint o ddiddordeb mewn cymryd rhan lawn yn y cwestiwn gwleidyddol hwnnw. Mae hynny'n sicr wedi fy ysbrydoli i i roi fy nghefnogaeth lwyr i ymestyn yr etholfraint yma yng Nghymru.
Ac mae hefyd yn ymwneud â dinasyddiaeth, Ddirprwy Lywydd, a pharatoi ar gyfer cymryd rhan weithredol mewn llywodraethu cyffredinol. Gallwn gryfhau'r cysyniad o ddinasyddiaeth, ei hawliau a'i chyfrifoldebau trwy raglen baratoi yn ein hysgolion a'n colegau. Rydym yn wynebu argyfwng dinasyddiaeth, a dweud y gwir, a'i gysylltiad â'r dyletswyddau o redeg democratiaeth, ac mae hon i'w gweld yn un ffordd y gallwn ddechrau unioni hynny a chael delfrydiaeth yn ôl i mewn i'r broses ddemocrataidd, rhywbeth y mae ei gwir angen arni i allu ffynnu.
Fodd bynnag, credaf fod ymestyn yr etholfraint mewn unrhyw wlad yn foment dyngedfennol yn ei hanes, a dylid ei wneud gyda'r difrifoldeb sy'n briodol. Fel y dywedais, rwyf fi'n bersonol yn cefnogi'n frwd y symudiad i ostwng yr oedran pleidleisio, ac felly byddaf yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil heddiw, a buaswn hefyd yn argymell bod pob Aelod yn y Siambr hon yn gwneud yr un fath. Fodd bynnag, fel grŵp, byddwn yn caniatáu pleidlais rydd er mwyn i Aelodau allu penderfynu drostynt eu hunain ynglŷn â'r diwygiad cyfansoddiadol pwysig hwn.
Wedi dweud hynny, fodd bynnag, a dathlu'r hyn rwy'n gobeithio y byddwn yn ei wneud yn y misoedd nesaf, credaf ei bod yn bwysig fod y Bil hwn yn cael ei gryfhau hefyd. Mae'n llai na boddhaol gadael cwestiwn yr etholfraint a'i gostwng mewn etholiadau awdurdodau lleol i Fil yn y dyfodol. Dylem fod wedi edrych ar yr egwyddor o ostwng yr etholfraint i rai 16 a 17 oed, neu ei hymestyn iddynt, i gynnwys pob etholiad o fewn ein cwmpas, ac mae hynny'n golygu etholiadau llywodraeth leol hefyd. Rydym wedi cael addewid o Fil ac mae'n siŵr y bydd un yn cael ei gyflwyno, ond mae hwn yn faes dadleuol iawn o ran diwygio llywodraeth leol a gallai'r Bil hwnnw wynebu trafferthion. Rwy'n gobeithio na fydd, o ran materion yr etholfraint, beth bynnag.
A gaf fi droi at y ddyletswydd i addysgu? Er bod amryw o ddadleuon o blaid ac yn erbyn gostwng yr oedran pleidleisio i 16, un pryder cyffredin a bwysleisiwyd yw'r angen am addysg a chodi ymwybyddiaeth i gyd-fynd â'r newid hwn, ac yn wir iddo ddigwydd beth bynnag, fel bod dinasyddion yn cael eu paratoi'n briodol ar gyfer eu dyletswyddau gwleidyddol. Barnodd ystod gyfan o dystion fod y lefel bresennol o gymorth addysg weithiau, neu hyd yn oed yn aml efallai, yn annigonol. Er enghraifft, dywedodd Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru fod addysg wleidyddol yn gymharol wael, a'n bod wedi ymddieithrio i raddau oddi wrth wleidyddiaeth ddatganoledig yn arbennig. Mae hynny'n wendid. Wrth nodi'r arferion ragorol mewn rhai ysgolion, cyfaddefodd y Gweinidog Addysg hyd yn oed fod y ddarpariaeth addysg dinasyddiaeth yn amrywio rhwng ysgolion, a chydnabu fod yr angen am gysondeb yn y negeseuon y mae pobl ifanc yn eu cael mewn perthynas ag addysg wleidyddol drwy'r cwricwlwm newydd yn bwysig.
Fodd bynnag, yn fwy cadarnhaol, mae myfyrwyr Cymru yn galw'n daer am well ymgysylltiad ac addysg wleidyddol. Dangosodd arolwg barn yn 2017 fod 60 y cant ohonynt yn anghytuno eu bod wedi cael paratoad gwirioneddol dda ar gyfer gwleidyddiaeth, ond eu bod eisiau iddo fod yn well o lawer. Dywedodd llawer ohonynt, fodd bynnag, fod llawer o'u gwybodaeth yn dod o ffynonellau fel Facebook ar hyn o bryd. Ac unwaith eto, credaf fod angen inni fynd i'r afael â hynny. Heb raglen addysg gref y tu ôl i'r newidiadau hyn, credaf fod perygl y byddwn yn gweld rhai o'r problemau a wynebwyd yn yr Alban, lle'r oedd 25 o'r 32 o awdurdodau wedi datblygu canllawiau i brifathrawon—rwy'n cymryd na wnaeth y gweddill hynny—ond nid oedd llawer o gysondeb canolog, a chredaf y gallem wella pethau yma drwy baratoi'n fwy effeithiol yn gyffredinol a chael yr arweiniad canolog hwnnw. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n faes pwysig.
Rwy'n sylweddoli bod fy amser wedi dod i ben, ond rwy'n gobeithio y goddefwch i mi gyfeirio at yr enw. Mae anawsterau yma ynglŷn â dehongliad cyfreithiol, ond ar y funud, rwy'n credu y byddem i gyd yn cytuno fod adran 2 neu gymal 2—ni allaf fyth gofio os yw'n adran neu gymal—yn dweud:
'(1) Mae Cynulliad Cymru a gyfansoddwyd gan Ddeddf 2006 i’w alw’n “Senedd”.
(2) Caniateir galw’r Senedd hefyd yn Welsh Parliament.'
Wel, pe caem y gair 'congress' i mewn i'r ddwy linell hynny, credaf y byddem wedi cael bingo gwleidyddol ac y byddem wedi gallu gweiddi, 'house'—efallai y byddai wedi bod yn briodol. Rwy'n credu bod angen gwella hyn. Rwy'n credu bod angen enw dwyieithog arnom. Mae hynny'n hynod bwysig. Mae amryw o bethau y byddaf yn eu cyflwyno pan fyddwn yn edrych ar hyn, ond mae ein barn mewn gwirionedd yn—. Dylwn ddweud 'fy marn i', oherwydd nid oes gan y grŵp un yn dechnegol. Ond mae fy marn i'n cyd-fynd yn agos â'r Cwnsler Cyffredinol y dylai ddweud y bydd yna 'parliament' i Gymru, a elwir yn Senedd Cymru. Credaf mai dyna lle mae angen inni ei gyrraedd. Hefyd, buaswn wedi gwneud sylwadau am—