7. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 10 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 5:38, 10 Gorffennaf 2019

Dwi'n cydnabod y ffordd dŷch chi wedi ymateb i'r drafodaeth. Dwi'n gwerthfawrogi hynny. Mae yna newidiadau barn ar draws y Siambr, ond mae yna hefyd gytundeb ar draws y Siambr. A fuasai'n bosibl i chi fel Llywydd gynnal trafodaethau tu fas i'r broses ddeddfu rhwng Aelodau i weld lle mae yna ofod ar gael i ddod at gytundeb a chael cytundeb ehangach ar draws y Siambr cyn bod y Bil yma'n mynd trwy'r broses ddeddfu?