8. Dadl Blaid Cymru: Diwygio'r Cynulliad

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 10 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 5:41, 10 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o godi i wneud y cynnig yn enw fy mhlaid ac yn wir, i adeiladu ar drafodaeth y ddadl flaenorol ynglŷn ag o ble y daethom, sut rydym wedi datblygu fel Senedd, a sut y gallem ddatblygu ymhellach. Wrth feddwl am fwa democratiaeth Gymreig, os mynnwch, rwy'n credu mai un ffordd o'i weld yw ein bod wedi dechrau fel Senedd a oedd yn fach o ran maint a hefyd yn wan o ran ein pŵer, ac rydym bellach yn Senedd fach, bwerus.

Fodd bynnag, rwy'n credu bod gwendid yn y disgrifiad hwnnw. Ffordd wahanol o grynhoi'r helynt rydym ynddo yn awr yw dweud, 'Oes, mae gennym fwy o arfau ar gael inni, sydd i'w groesawu, ond mae gennym yr un nifer o ddwylo'. Ac mae problem gyda hynny, onid oes? Oherwydd gall pwerau a ddelir ond na ellir eu defnyddio'n effeithiol fod yn waethaf o bob byd mewn rhai ffyrdd, oherwydd maent yn creu disgwyliadau o newid trawsnewidiol eang, er enghraifft, na ellir ei wireddu'n llawn wedyn, gan greu perygl o elyniaethu dinasyddion a thanseilio ffydd yn y sefydliad ei hun yn y pen draw. Yn yr ystyr hwnnw, rydym yn Senedd sy'n meddu ar bwerau newydd, ond heb y pŵer i'w defnyddio i'r eithaf. Rydym yn Senedd nad yw'n gweithredu ar bŵer llawn, os mynnwch, gyda bwlch enfawr yn y capasiti rhwng yr hyn y gallwn ei wneud o safbwynt cyfreithiol yn awr, a'r hyn y gallwn ei wneud yn ymarferol, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, i ddwyn y Weithrediaeth i gyfrif.

Nawr, mae'r cwestiwn ynglŷn â maint seneddau'n swnio fel pe bai'n fater ymylol, yn faes ar gyfer gîcs cyfansoddiadol. Mae'n unrhyw beth ond hynny. Mae mor sylfaenol yn natblygiad democratiaeth ei hun nes i James Madison ac Alexander Hamilton ysgrifennu Papur Ffederal amdano. A gwibiwch ymlaen at heddiw, a lluniodd y New York Times erthygl olygyddol amdano yn ddiweddar, gan ddadlau'r achos dros ethol mwy o Aelodau o Dŷ'r Cynrychiolwyr—fel yr awgrymwn yn y cynnig hwn—ar sail pleidleisiau sengl trosglwyddadwy mewn etholaethau aml-Aelod. Nawr, mae'n ffordd bell o Capitol Hill i Fae Caerdydd, ond yr un yw'r ddadl yn ei hanfod. Mae ein Senedd yn rhy fach, ac mae hynny'n creu perygl mawr i iechyd ein democratiaeth.

Nawr, dros y 15 mlynedd diwethaf, rydym wedi cael tri ymchwiliad annibynnol mawr, a phob un yn dod i'r un casgliad—os yw'r lle hwn i weithio'n effeithiol, mae angen mwy o Aelodau. Cawsom gomisiwn Richard yn 2004, Comisiwn Silk yn 2012, ac yn olaf, panel arbenigwyr McAllister y llynedd. Dywedodd Comisiwn y pedwerydd Cynulliad nad oes gennym ddigon o bŵer a'n bod o dan ormod o bwysau, a chytunodd Comisiwn presennol y Cynulliad, a dyna pam y bu iddynt gomisiynu'r panel arbenigol.

Sut na allech ddod i'r casgliad hwn? Wrth i bwerau a llwyth gwaith y lle hwn gynyddu'n gyson, rwy'n credu bod yr achos o blaid rhagor o Aelodau wedi dod yn fwyfwy diymwad. Mae gennym Drysorlys Cymru, ond a oes gennym bwyllgor Trysorlys mewn gwirionedd? Nid amharchu'r Pwyllgor Cyllid yw dweud nad yw Pwyllgor Cyllid sy'n cynnwys chwech o bobl yn ddigon i graffu ar y pwerau trethu a ddatganolwyd yn ddiweddar ac i oruchwylio gwerth £2 biliwn a mwy o bwerau trethu. Fel y dywedodd panel McAllister, gan ddyfynnu Comisiwn Silk,

'Rhaid wrth graffu da i gael deddfwriaeth dda, ac mae deddfwriaeth dda yn talu amdani ei hun.'  

Nawr, heb gyfrif Gweinidogion a deiliaid swyddi eraill, er enghraifft, dim ond 44 o Aelodau sydd yn y lle hwn, yn y Senedd hon, sy'n gallu dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a chraffu'n effeithiol ar ddeddfwriaeth fel Aelodau meinciau cefn. Mae hynny'n cymharu â 113 yn Senedd yr Alban yn y sefyllfa honno, a 522 yn San Steffan. Daeth panel McAllister i'r casgliad y dylai Cadeiryddion pwyllgorau polisi a deddfwriaeth, neu bwyllgorau arwyddocaol eraill, fod yn aelodau o'u pwyllgorau eu hunain yn unig fel pwynt o egwyddor, ac na ddylai Aelodau eraill fod yn aelodau o fwy na dau bwyllgor. Ond gyda dim ond 60 o Aelodau, dywedasant nad yw hyn yn gyraeddadwy o fewn system bresennol y pwyllgorau. Fel Aelodau, rydym i gyd yn gwybod; rydym yn symud yn barhaol o un cyfarfod neu un mater i'r llall, ac am lawer o'r amser nid ydym yn cael cyfle hyd yn oed i ddarllen, heb sôn am fyfyrio'n iawn ar y dogfennau sydd wrth wraidd y cyfarfodydd hynny. Mae'r terfynellau cyfrifiadurol erchyll hyn sy'n clodfori amldasgio yn dyst i'r ffaith nad oes gennym ddigon o Aelodau gyda digon o amser. Nid oes gennym amser i wrando ar ein gilydd, heb sôn am feddwl.

Rhyngddynt, edrychodd Richard, Silk a McAllister yn drylwyr ar ddeddfwrfeydd gwledydd bach cyfatebol ledled y byd. Gwelsant fod 60 o Aelodau yn eithriadol o fach ar gyfer Cynulliad deddfwriaethol sydd hefyd yn darparu gweithrediaeth. Rydym ar ben draw cynffon hir. Canfu'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol mai tua 100 o gynrychiolwyr yw'r norm yn rhyngwladol hyd yn oed ar gyfer deddfwrfeydd datganoledig â swyddogaethau gweithredol fel ein hun ni. Ni yw'r unig genedl yn y byd y gallais ddod o hyd iddi lle mae gan siambr cyngor y brifddinas fwy o aelodau na'r Senedd genedlaethol ei hun. Maint cyfartalog Seneddau cenedlaethol ar gyfer gwledydd fel ein hun ni, gyda rhwng 1 filiwn a 6 miliwn o ddinasyddion, yw tua 140 o Aelodau. Yn wir, pe baech yn defnyddio rheol enwog y trydydd isradd—rwyf yn nhiriogaeth y gîc cyfansoddiadol yn llwyr yn awr—sef canfyddiad y gwyddonydd gwleidyddol o Estonia, Rein Taagepera, fod corff deddfwriaethol mwyaf deddfwrfa genedlaethol yn tueddu i fod yn drydydd isradd o'r boblogaeth, nifer sydd, o'i lluosi â'i hun ddwywaith, yn cynhyrchu'r boblogaeth oedran pleidleisio, byddai gan y Senedd tua 140 o Aelodau.

Nawr, roedd adroddiad McAllister, wrth gwrs, yn argymell y cynnig llawer mwy cymedrol a rhesymol o rhwng 80 a 90 o Aelodau, ond does bosibl nad oes rhaid i ni dderbyn bod 60 yn llawer rhy fach i ni allu gwneud y gwaith a neilltuwyd ar ein cyfer. Mae angen inni wneud rhywbeth ynglŷn â hynny, ac mae angen inni ei wneud yn awr. Gwn fod rhai pobl heddiw wedi fy nghyhuddo o chwarae gwleidyddiaeth gyda hyn, felly gadewch imi ddyfynnu rhywun sy'n addefedig anwleidyddol, cyn-Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, a ddywedodd hyn yn ei lythyr atom ar ei ymadawiad:

'byth ers i mi fod yn aelod o Gomisiwn Richard yn 2002-04, mae wedi bod yn glir i mi fod cynnydd yn nifer Aelodau’r Cynulliad yn angenrheidiol, er mwyn i’r Cynulliad ei hun barhau i fedru craffu ar y weithrediaeth yn effeithiol. Gyda’r cynnydd parhaus yn amrywiaeth y pwerau sy’n cael eu datganoli i Gymru dan Ddeddf 2015, yn enwedig o ran codi trethi, mecanweithiau cyllido arloesol a chludiant, ystyriaf fod yr angen am Aelodau Cynulliad ychwanegol yn awr yn dod yn un difrifol'.

Nawr, rwy'n credu bod llawer o Aelodau yn y Siambr yn gwybod fy mod yn dweud y gwir. Rwy'n credu mai dyna pam y mae'r Prif Weinidog a'i blaid, a bod yn deg, wedi datgan o blaid mwy o Aelodau mewn egwyddor. Mae hanfod safbwynt presennol y Blaid Lafur, fel y'i deallaf, yn ysbryd Awstin Sant i raddau: 'Gwnewch ni'n fwy effeithiol, ond ddim eto'. Ac rwy'n ofni ein bod yn disgyn i fagl gyfarwydd iawn yma. Cymaint o weithiau dros yr 20 mlynedd diwethaf rydym wedi cael yr uchelgais mwyaf ond dim brys o gwbl, ac mae peryglon yno i bawb ohonom.