8. Dadl Blaid Cymru: Diwygio'r Cynulliad

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 10 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 5:50, 10 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Ond hanfod y ddadl rwy'n ei chyflwyno yw na allwn fforddio aros tan 2026. Nid yw hon yn broblem y gellir ei gohirio tan yfory, heb sôn am bum mlynedd arall—mae'n argyfwng yn ein democratiaeth y mae'n rhaid inni ei unioni heddiw. A gallwn ei wneud heddiw os ydym yn cefnogi'r cynnig hwn. Ac i'r rhai sydd ag unrhyw amheuaeth p'un a oes gennym amser, hoffwn eich atgoffa mai 20 mis oedd yna rhwng y refferendwm yn 1997 a'r etholiadau i'r Cynulliad cyntaf, wrth gwrs, yn ôl yr hyn rwy'n ei gyfrif. Mae gennym 22 mis cyn yr etholiad nesaf, ac nid wyf yn credu y byddai neb ohonom eisiau dadlau bod gennym lai o allu na San Steffan i gyflwyno deddfwriaeth ar gyfer cryfhau democratiaeth Cymru.