Part of the debate – Senedd Cymru am 5:53 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant yn enw Caroline. Diolch i'r Aelod am ei araith. Roeddwn i'n meddwl ei fod wedi siarad mewn ffordd bwyllog tu hwnt. Mae eraill yn dweud y gallai fod yn chwarae gwleidyddiaeth. Credaf fod yr ymadrodd hwnnw'n cael ei ddefnyddio'n aml naill ai pan fo grwpiau'n rhanedig ymysg eu hunain o ran eu safbwynt neu pan fydd safbwynt yr Aelod ei hun yn wahanol, efallai, i safbwynt y rhai y maent yn eu cynrychioli, a chredaf fod arweinydd Plaid Cymru wedi cyffwrdd â'r ddau heddiw o bosibl.
I'n grŵp ni, rydym yn glir—rydym wedi cynnig ein gwelliant ein hunain. Yn gyntaf, rydym am nodi adroddiad panel arbenigol y Cynulliad ar ddiwygio etholiadol. Er na fyddwn yn gallu ei gefnogi o bosibl, hyd yn oed pen isaf yr ystod o ACau a roddodd y Panel, rwy'n werthfawrogol iawn o'r gwaith a wnaeth yr Athro Laura McAllister a'i chyd-Aelodau uchel eu parch, a hoffwn gofnodi ein diolch, ac rwy'n siŵr fy mod yn siarad dros eraill yn hynny o beth.
Ein hail bwynt yw ein bod o'r farn nad oes awydd ymhlith y cyhoedd sy'n pleidleisio i gynyddu nifer y gwleidyddion yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn syml, credwn fod hynny'n wir. Efallai fod yr Aelodau am gynyddu'r nifer. Efallai fod yr Aelodau'n cyflwyno dadleuon penodol, ac efallai fod rhai ohonynt yn ddadleuon da dros wneud hynny, ond nid oes awydd ymhlith ein hetholwyr i wneud hyn. Fe geisiaf egluro pam nad oes awydd i wneud hynny; y cynnydd yn nifer y gwleidyddion sy'n fwyaf o dân ar eu crwyn yn fy marn i. Rydym yn ymhelaethu rhywfaint ar hyn yn y ddau is-bwynt ym mhwynt 2. Hoffem weld adolygiad 2018 o etholaethau seneddol ar lefel San Steffan yn cael ei weithredu. Nid wyf yn gwybod beth yw safbwynt Plaid Cymru ar hynny. Ar hyn o bryd, mae gan Gymru gynrychiolaeth rhy fawr yn San Steffan. Efallai yr hoffent iddi gael ei gorgynrychioli hyd yn oed yn fwy. Ond rwy'n meddwl pan fydd gennym ddatganoli mae'n anodd—[Torri ar draws.] Nid ydynt eisiau i ni fod yno o gwbl. Maent yn cuddio hynny weithiau, ond nid heddiw—y gefnogaeth ddiamwys i annibyniaeth a nododd y Prif Weinidog ddoe.
O ran poblogaeth, rwy'n credu y byddai gan Gymru 29 sedd yn hytrach na 40 yn Nhŷ'r Cyffredin. Dyna a ddywedai'r adolygiad seneddol a gawsant, ond nid yw'n ymddangos fel pe bai'n mynd i gael ei weithredu. Felly, byddai hynny'n golygu 11 Aelod yn llai. Yna, rydym i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd; byddai hynny'n arwain at bedwar Aelod o Senedd Ewrop yn colli eu swyddi. Felly, 15 o wleidyddion i gyd na fyddai'n cael eu talu o'r pwrs cyhoeddus mwyach. Ac yn y senario honno, efallai yr hoffai'r Aelodau gyflwyno eu dadleuon eto ac y byddwn yn gwrando ar y dadleuon hynny. Ond ar hyn o bryd, nid oes awydd i ehangu maint y lle hwn, ac mae hynny'n rhannol oherwydd bod gennym ormod o ASau yn San Steffan ac mae gennym ASEau yn Senedd Ewrop a ninnau wedi pleidleisio tair blynedd yn ôl i adael.
Y ddadl a wnaeth Adam oedd ein bod yn fach o ran maint ar y dechrau ac yn wan o ran pwerau, ac wrth inni ddatblygu mwy o bwerau, dylem gael mwy o bobl. Ond does bosibl mai canlyneb y ddadl honno yw y dylai'r sefydliadau yr ydym wedi cymryd grym oddi wrthynt—h.y. San Steffan a'n cynrychiolaeth yn y fan honno a'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, gobeithio—weld y niferoedd hynny'n gostwng. Nid yw hynny wedi digwydd, ac eto cawn y brys hwn i'w wneud erbyn 2021, cyn i hynny ddigwydd o bosibl. Rwy'n credu mai dyna sy'n gwneud hwn yn gynnig anodd iawn iddo ei gyflwyno a pham na fydd yn cael y gefnogaeth y byddai'n gobeithio ei chael gan eraill yn y Siambr.
Rwy'n tynnu sylw i orffen hefyd at y sefyllfa gyda llywodraeth leol. Rwy'n meddwl bod Llafur wedi ceisio lleihau nifer y cynghorau yng Nghymru ddwywaith, efallai dair gwaith. Ceir dadleuon eithaf cryf o blaid gwneud hynny, ond bob tro maent wedi cilio rhag ei wneud ac mae gennym 22 cyngor o hyd sy'n llawer llai ar gyfartaledd na chynghorau yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig. Mae gennym gostau ar gyfer pob un o'r 22 cyngor, a llawer ohonynt yn cael eu hailadrodd 22 o weithiau. Pe bai gennych lai o gynghorau, pe bai gennych lai o gynghorwyr, yn ogystal â—