Part of the debate – Senedd Cymru ar 10 Gorffennaf 2019.
Gwelliant 1—Caroline Jones
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le;
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad.
2. Yn credu nad oes awydd ymysg y cyhoedd sy'n pleidleisio i gynyddu nifer y gwleidyddion yng Nghymru ar hyn o bryd, ac y dylai ymdrechion ganolbwyntio yn hytrach ar:
a) deddfu cynigion adolygiad 2018 o Etholaethau Seneddol i'w hethol i Dŷ'r Cyffredin;
b) cyflymu'r broses o ddiwygio etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.