8. Dadl Blaid Cymru: Diwygio'r Cynulliad

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:55 pm ar 10 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 6:55, 10 Gorffennaf 2019

Wel, mi oedd e yn ein maniffesto ni ynglŷn â chynyddu nifer yr Aelodau, ac felly allwch chi ddim beio ni am y ffaith dŷch chi ddim wedi adlewyrchu—[Torri ar draws.] Wel, ble ydych chi wedi bod? Mae'r prif chwip newydd ddweud—[Torri ar draws.] Mae prif chwip eich Llywodraeth chi newydd ddweud—[Torri ar draws.] Mae'r prif—[Torri ar draws.] Os caf orffen y frawddeg, Mick. Mae'r prif chwip newydd ddweud bod hi wedi teimlo, pan oedd Richard wedi adrodd 15 mlynedd yn ôl, fod angen datrys hwn. Yr hyn sydd yn cael ei gynnig yw ein bod ni'n cyflawni hynny 22 o flynyddoedd ar ôl i'r comisiwn hynny adrodd. Mae hynny, does bosib, yn tanlinellu'r angen i ni weithredu ar hyn, a gweithredu nawr.