Part of the debate – Senedd Cymru am 6:39 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? [Chwerthin.] Rwyf wedi bod yn Aelod rhanbarthol yn y Cynulliad hwn ers 12 mlynedd, ac am ran o'r amser hwnnw wrth eich ochr chi ac eraill, ac ni allaf eistedd yma a gwrando arnoch yn dweud eich bod yn credu bod cynrychiolaeth ranbarthol, rywsut, yn llai o gynrychiolaeth. Felly, mae arnaf ofn y bydd yn rhaid i mi anghytuno'n llwyr ac yn gyfan gwbl â'ch sylwadau.