8. Dadl Blaid Cymru: Diwygio'r Cynulliad

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:43 pm ar 10 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 6:43, 10 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Ni fydd pobl Cymru'n diolch i Gynulliad, Senedd, sy'n edrych tuag i mewn ac yn anghofio'r hyn y maent ei eisiau ac yn anghofio'r bobl y maent yn eu cynrychioli. Rwyf am i bobl Blaenau Gwent gael eu cynrychioli gan Senedd sy'n gweithio dros Gymru, ond mae angen iddynt gael cyfle hefyd i roi eu cydsyniad i hynny. Ac mae hynny'n golygu consensws ar draws y Siambr, ledled y wlad, a'n bod yn symud ymlaen ar sail y cydsyniad hwnnw.