8. Dadl Blaid Cymru: Diwygio'r Cynulliad

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:44 pm ar 10 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:44, 10 Gorffennaf 2019

Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl yma y prynhawn yma, am y gwelliannau hefyd, ac am y cyfraniadau meddylgar a diddorol rŷn ni wedi eu cael hyd yn hyn. 

Senedd dra wahanol yw hon i’r un a sefydlwyd yn 1999, ac wrth i’w phwerau a’i chyfrifoldebau esblygu, felly hefyd yr achos o blaid cynyddu ei chapasiti i greu sefydliad gwirioneddol addas i bwrpas. Mae’n werth dechrau drwy atgoffa ein hunain, fel mae rhai wedi ei wneud eisoes, o’r daith hyd yn hyn.

Dim ond pum mlynedd ar ôl agor y Cynulliad cyhoeddodd y comisiwn Richard ar ddatganoli adroddiad yn argymell fod ar Gymru angen 20 yn fwy o Aelodau os am weithredu'n effeithiol. Degawd yn ddiweddarach, daeth argymhellion tebyg ar ffurf adroddiad ail ran y comisiwn Silk ar ddatganoli. Yn sgil hyn, yn 2015, cytunodd Comisiwn y Cynulliad yn unfrydol fod ar y lle hwn angen mwy o Aelodau os am sicrhau bod crud democratiaeth Cymru am ddelifro ei holl gyfrifoldebau a gweithrediadau yn effeithiol.

Rhoddodd Deddf Cymru 2017 y pwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol i weithredu ar hyn am y tro cyntaf. Nid mater bellach i Senedd San Steffan yw gwneud newidiadau o'r fath; mae nawr yn ein dwylo ni. Y datblygiad hwnnw oedd y sbardun i sefydlu’r panel arbenigol ar ddiwygio’r Cynulliad. Dan arweiniad yr Athro Laura McAllister, bu'r panel yn casglu a dadansoddi ystod o dystiolaeth ar sut i greu Senedd fwy cynaliadwy. Penllanw’r gwaith hwnnw oedd adroddiad pellgyrhaeddol yn cynnwys argymhellion megis gostwng yr oed pleidleisio i 16 a chynyddu’r nifer o Aelodau Cynulliad i rhwng 80 a 90, hynny law yn llaw gyda diwygio’r system etholiadol.

Bydd Aelodau'n ymwybodol bod Comisiwn y Cynulliad wedi bwrw ymlaen gyda rhaglen o ddiwygio etholiadol yn sgil yr argymhellion hyn. Mae rhan 1 y rhaglen eisoes yn dwyn ffrwyth, a ninnau newydd drafod y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) y prynhawn yma. Gwyddoch hefyd mai’r gobaith oedd symud ymlaen gyda rhan 2, sef yr argymhellion ar gynyddu maint y Senedd a diwygio’r system etholiadol. Roedd y Comisiwn eisoes wedi ymgynghori gyda'r cyhoedd ar y materion yma a derbyn cydsyniad y mwyafrif o ymatebion. Er hyn, fis diwethaf, daeth i’r amlwg nad oedd modd deddfu ar ran 2 y rhaglen yn y Cynulliad hwn.

Heb os, mae’r achos o blaid mwy o Aelodau Cynulliad wedi ei ddadlau’n effeithiol, ac mae'r pleidiau yn parhau i ystyried oblygiadau newid y system etholiadol: rhai â pholisi pendant ar hynny; rhai ag amryw o safbwyntiau ar hynny. Rwy'n mawr obeithio, felly, mai mater o amser byr fydd hi cyn cyrraedd Tŷ'r Cyffredin â chytundeb ar system etholiadol sy'n gymaradwy i'r uwch-fwyafrif, fel y gellid cyflwyno deddfwriaeth i gyflawni hyn.

Mae'r dadlau yn erbyn creu Senedd sydd â'r capasiti angenrheidiol i wasanaethau pobl Cymru hyd orau ei gallu yn gynyddol amhosib. Mae consensws wedi tyfu ymysg y pleidiau a chymdeithas sifil fod creu mwy o Aelodau Cynulliad yn anochel, ac rwy’n hyderus bod y mwyafrif helaeth yn gweld y rhesymeg y tu ôl i hyn. Mae ein pwerau ni'n parhau i gynyddu, fel rŷm ni wedi clywed y prynhawn yma: ar drethiant, ar Brexit. Mae hefyd disgwyl i’r comisiwn ar gyfiawnder adrodd yn yr hydref. Gyda’r achos o blaid cynyddu pwerau’r Cynulliad yn y maes hwnnw hefyd yn codi stêm, mae posibilrwydd gwirioneddol y byddai angen sefydlu pwyllgor cyfiawnder sylweddol o'r Senedd yma i baratoi ac i graffu ar y gwaith perthnasol hwnnw.

Dyna flas tebygol o’r dyfodol felly—mwy o gyfrifoldebau, mwy o ddisgwyliad i graffu, ond yr un nifer o Aelodau ac o oriau yn y dydd. Ond mae posib dewis trywydd gwahanol—un sy'n fwy cydradd a chynrychioladol. Fel y gwnaeth panel arbenigol McAllister gydnabod yn eu hadroddiad, ni fydd galw am fwy o wleidyddion fyth yn gam poblogaidd, ond anghyfrifol fyddai anwybyddu a pheidio â chydnabod problem o gyflawni.

Mae cymariaethau rhyngwladol a domestig yn amlygu’r diffyg capasiti sgrwtini. O edrych ar gyfran Aelod Cynulliad y pen o’r boblogaeth, mae’r Alban a Gogledd Iwerddon yn uwch na Chymru. Yn yr Alban, mae un Aelod Cynulliad—un Aelod Senedd—yr Alban am bob 42,000 o'r boblogaeth, ac yng Ngogledd Iwerddon mae'r ffigwr yn 20,000 o'r boblogaeth. O'i gymharu, mae un Aelod Cynulliad yng Nghymru ar gyfer pob 52,000 o'r boblogaeth ar gyfartaledd. Fel sydd eisoes wedi'i gyfeirio ato, mae gan naw o'n 22 awdurdod lleol ni fwy o aelodau etholedig na’n Senedd genedlaethol, ac mae digon o enghreifftiau eraill dros y dŵr. Noda adroddiad y panel arbenigol, pe bai gan y Cynulliad yr un nifer o Aelodau y pen o’r boblogaeth ar gyfartaledd â 16 deddfwrfa arall yn yr Undeb Ewropeaidd gyda phoblogaethau tebyg i Gymru, yna fe fyddai gennym ni 86 o Aelodau yn y Cynulliad yma. Pe baem ni hefyd yn cynnwys naw talaith America, sydd â phoblogaethau tebyg, byddai gyda ni 91 Aelod yn y Cynulliad yma.