Part of the debate – Senedd Cymru am 6:57 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar ddiwygio'r Cynulliad. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 11, neb yn ymatal, 40 yn erbyn, felly gwrthodwyd y cynnig a phleidleisiwn ar y gwelliannau.