Polisi Tai

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 16 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 2:05, 16 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, mae digartrefedd a chysgu ar y stryd yn broblemau mawr, ac yn amlwg mae llawer o flynyddoedd o gyni cyllidol Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi cael effaith ddifrifol ar ein gwasanaethau cyhoeddus ac ar bobl agored i niwed yn ein cymunedau. Ac mae'n effaith gyfunol o flwyddyn i flwyddyn, felly, wrth geisio gwrthsefyll hynny, rwy'n credu bod polisi Tai yn Gyntaf Llywodraeth Cymru yn rhan bwysig o'r dull angenrheidiol a chywir, ac rwy'n credu bod yr ardaloedd arbrawf i'w croesawu'n fawr. Ond mae angen i ni sicrhau bod y llety priodol ar gael ledled Cymru gyfan os yw Tai yn Gyntaf yn mynd i gael ei gyflwyno ar hyd a lled ein gwlad. Felly, tybed a allech chi gynnig unrhyw sicrwydd y bydd y llety angenrheidiol hwnnw ar gael ledled Cymru, ac, os felly, pryd y bydd ar gael.