Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 16 Gorffennaf 2019.
Wel, Llywydd, mae'r Aelod yn gwneud camgymeriad sylfaenol, rwy'n credu, wrth ddehongli adroddiadau am ddigwyddiadau difrifol fel tystiolaeth bod hyn yn golygu bod popeth yn mynd o chwith. Rydym ni wedi cael y ddadl hon ers blynyddoedd yn y Cynulliad hwn. Rwy'n ei chofio'n dda iawn dros yr ymgyrch 1000 o Fywydau, a lansiwyd bron i ddegawd yn ôl, pan ein bod ni wedi dweud yn gyson ein bod ni eisiau diwylliant yn GIG Cymru, lle, os byddwch chi'n gweld rhywbeth sydd wedi mynd o'i le, yna rydych chi'n hysbysu amdano ac yn gwneud yn siŵr eich bod chi'n dysgu o'r profiad hwnnw. Nid yw'n golygu o gwbl bod y digwyddiadau hynny wedi gwneud niwed gwirioneddol. Mae'n golygu bod y risg o niwed wedi ei nodi. Ac, mewn diwylliant o ddysgu, mae pobl yn cael eu hannog i ddod ymlaen, hysbysu amdano a rhannu hynny ymhlith eu cydweithwyr.
Os bydd gennym ni bobl, bob tro y bydd y ffigurau hynny'n cael eu cyhoeddi, yn dweud, 'O, mae hyn yn golygu bod pobl mewn perygl yn GIG Cymru,' y cwbl y byddwn ni'n ei wneud yw perswadio pobl i beidio â chymryd y camau hynny—yn union i'r gwrthwyneb i'r math o ddiwylliant yr ydym ni wedi gweithio, yn fy marn i, ar draws sawl rhan o'r Cynulliad hwn, i geisio ei gyflwyno. Dylid canmol y ffaith bod rhai byrddau iechyd yn well yn hyn o beth ac wedi perswadio mwy o bobl i ymrwymo i'r diwylliant hwnnw, ac nid ceisio dweud mai nhw yw'r gwaethaf oll. Rwyf i eisiau GIG lle mae pobl yn ffyddiog, os oes pethau y maen nhw eisiau tynnu sylw atynt, y byddan nhw'n gwybod bod hynny'n rhan o'r gwaith y maen nhw'n ei wneud sy'n cael ei gwerthfawrogi a'i gwobrwyo, ac yna, pan gawn ni ffigurau sy'n dangos hynny, dylem ni i gyd fod yn barod i ddweud bod hynny'n dystiolaeth o sefydliad sy'n dysgu ac yn benderfynol o wneud pethau'n well, nid tystiolaeth o sefydliad sydd bob amser yn gwneud pethau yn anghywir.