Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 16 Gorffennaf 2019.
Prif Weinidog, mae gan bolisi tai ran allweddol i'w chwarae wrth fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddoe y bydd yn diwygio rheoliadau adeiladu fel y bydd gosod pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydanol yn ofynnol ym mhob datblygiad tai newydd. Efallai y byddwch chi wedi sylweddoli, pan gyhoeddodd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig ei strategaeth dai, mai hwn oedd un o'r pethau y gwnaethom ni annog Llywodraeth Cymru i'w wneud. Rydych chi wedi cael peth amser i feddwl am hyn, ac yn amlwg nawr gallech chi efelychu'r hyn sy'n mynd i ddigwydd yn Lloegr, sef y Llywodraeth gyntaf, rwy'n deall, i gyflwyno'r polisi hwn. Ond a ydych chi'n croesawu'r fenter hon, ac a fyddwch chi'n ystyried o ddifrif cyflwyno'r diwygiad hwnnw i'r rheoliadau adeiladu yng Nghymru hefyd?