Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 16 Gorffennaf 2019.
Byddaf yn falch o gyfeirio at y Prif Weinidog presennol, gan fod y cwestiwn ar ei gyfer ef. Beth ydych chi wedi ei ddysgu, Prif Weinidog, o ad-drefniad blaenorol y Cabinet, a arweiniodd at ganlyniadau mor drasig, a pha fesurau ydych chi'n eu rhoi ar waith a fydd yn rhoi'r cyfrinachedd hwnnw i Weinidogion, y tynnodd Ysgrifennydd yr economi sylw ato yn ei sylwadau ddoe, y mae Gweinidogion y Cabinet yn ei haeddu pan fydd ad-drefnu yn digwydd?