Deddf Cydraddoldeb 2010

Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 16 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:44, 16 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi arweiniad sylweddol iawn o ran cytuno i weithredu adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Bu ymgyrch ers blynyddoedd lawer i geisio sicrhau bod hyn yn cael ei weithredu gyda Lloegr ac rydym ni'n dal i aros amdano. Tybed a allech chi amlinellu i ba raddau y bydd y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol wrth wraidd polisi Llywodraeth Cymru, o gofio nifer y bobl sy'n byw mewn tlodi ar hyn o bryd, sy'n byw mewn telerau ac amodau gwael, ond hefyd yr anghydraddoldeb sy'n codi yn y grŵp hwnnw o bobl hefyd.