Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 16 Gorffennaf 2019.
O ran Bil amaethyddiaeth i Gymru, mae'r oedi wrth ddatrys Brexit yn golygu y byddwn ni nawr yn canolbwyntio ar baratoi Bil o'r fath yn y tymor Cynulliad hwn i'w gyflwyno yn y tymor nesaf. Bydd hwn yn gyfle i fod yn uchelgeisiol ac yn eang, gan fynd ymhellach na dim ond cyfyngu deddfwriaeth i gynlluniau cymorth fferm i edrych ar faterion ehangach fel hawliau ffermwyr tenant. Lansiodd fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir' yr wythnos diwethaf. Mae'n cyflwyno cynigion uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys talu ffermwyr am yr hyn y gallan nhw ei wneud i ymateb i'r argyfwng hinsawdd, lleihau allyriadau a dal carbon. Edrychaf ymlaen at y sgyrsiau a fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru mewn sioeau amaethyddol ac mewn lleoliadau eraill yn ystod yr haf hwn. Gan ddefnyddio canlyniadau'r ymgynghoriad hwn, byddwn yn cyflwyno Papur Gwyn cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn i fraenaru'r tir ar gyfer deddfwriaeth.
Llywydd, tra buom ni'n paratoi ar gyfer Brexit, rydym ni wedi parhau i ddeddfu ar gyfer materion domestig pwysig, gan sicrhau'r fframwaith gweinyddol ar gyfer ein cynnig gofal plant i ddarparu cymorth y mae ei ddirfawr angen i deuluoedd sy'n gweithio, a sefydlu isafswm pris yr uned am alcohol, i'w gyflwyno yn y flwyddyn newydd. Rydym ni wedi cyflwyno deddfwriaeth i amddiffyn plant drwy ddiddymu'r amddiffyniad cosb resymol—Bil y mae pwyllgorau yma yn craffu arno ar hyn o bryd—ac wedi cyflwyno Bil i sicrhau diwygiadau allweddol i'r system iechyd a gofal.
Yn ddiweddarach heddiw, rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad hwn yn pasio Bil Deddfwriaeth (Cymru), y Bil cyntaf o'i fath yng Nghymru, a fydd yn cefnogi sut y caiff ddeddfwriaeth Cymru ei dehongli ac yn gwella hygyrchedd cyfraith Cymru.
Llywydd, mae'r 12 mis diwethaf hefyd wedi bod yn nodedig am ddeddfwriaeth a hyrwyddir yma heblaw gan Lywodraeth Cymru. Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 oedd y Bil pwyllgor cyntaf i gael Cydsyniad Brenhinol ers i'r Cynulliad hwn ennill pwerau deddfu llawn. Mae Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) y Llywydd ei hun wedi cyrraedd ei gamau diwygio. Bydd ganddo oblygiadau pellgyrhaeddol i'r sefydliad hwn ac i bobl ifanc ledled Cymru, gan ei fod yn ymestyn yr etholfraint yn etholiadau'r Cynulliad i rai 16 a 17 oed.
Gan droi, Llywydd, nawr at y flwyddyn sydd i ddod, bydd y Llywodraeth hefyd yn cyflwyno deddfwriaeth i roi'r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed mewn etholiadau llywodraeth leol yn rhan o'r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yr ydym yn bwriadu ei gyflwyno. Bydd y Bil hwnnw hefyd yn cryfhau democratiaeth, atebolrwydd a pherfformiad awdurdodau lleol, a bydd yn sefydlu dull cyson ar gyfer cydweithredu a chydweithio, gan gynnwys trefniadau ar gyfer trafnidiaeth. Bydd hyn yn grymuso awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus modern, hygyrch, o ansawdd uchel ar gyfer a gyda'r cymunedau lleol y maen nhw'n eu gwasanaethu.
Llywydd, byddwn hefyd yn cyflwyno Bil indemniad meddygon teulu yn ystod y flwyddyn nesaf hon i ategu'r cynllun presennol, a gyflwynwyd ym mis Ebrill. Bydd y Bil yn sicrhau bod yr holl hawliadau am esgeulustod clinigol, pryd bynnag yr adroddwyd amdanyn nhw neu y bu iddyn nhw ddigwydd, yn dod o dan ein cynllun atebolrwydd.
Llywydd, mae'r Cynulliad Cenedlaethol hwn wedi gwneud sawl peth pwysig i wella'r sector rhentu preifat a'i wneud yn ddewis cadarnhaol i denantiaid. Caiff ffioedd annheg a godir gan asiantau gosod eu gwahardd o fis Medi ymlaen o ganlyniad i gyfraith a basiwyd yma. Ac rwy'n falch o gael dweud y prynhawn yma, Llywydd, y gallwn ni nawr fwrw ymlaen â gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, a fydd yn sicrhau bod tenantiaid yn gallu manteisio ar ystod eang o fuddion, gan gynnwys amddiffyniad rhag cael eu troi allan er mwyn dial.
Ond mae mwy y gallwn ni ac y byddwn ni yn ei wneud, gan gynnwys ymateb i'r pryderon cyffredinol am droi allan heb fai. Yr wythnos diwethaf, lansiwyd ymgynghoriad gennym ni yn nodi cyfres o gynigion i ymestyn y cyfnod rhybudd y byddai'n rhaid i landlordiaid ei roi cyn y gallan nhw feddiannu eiddo. Yn seiliedig ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwnnw, rydym ni'n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth yn ystod tymor y Cynulliad hwn i fynd i'r afael â'r mater o droi allan heb fai.
Llywydd, byddwn yn cyflwyno Bil trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y tymor hwn o'r Cynulliad, gan adeiladu ar y cynigion yn y Papur Gwyn 'gwella trafnidiaeth gyhoeddus'. Bydd y Bil hwn yn rhan allweddol o'r diwygiadau ehangach i wasanaethau bysiau yma yng Nghymru a bydd yn ein helpu i gyflawni ein huchelgais o greu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus sy'n wirioneddol integredig, wedi'i gynllunio a'i ddarparu er budd y cyhoedd, ac sy'n diwallu anghenion y cyhoedd sy'n teithio. Roedd y Papur Gwyn hefyd yn gofyn am farn pobl am gyfres o gynigion i foderneiddio'r system drwyddedu ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat er mwyn ymateb i'r farchnad hon sy'n prysur newid. Cafodd agweddau ar y cynigion hynny gefnogaeth glir, ond fe wnaethon nhw hefyd esgor ar syniadau, gan y diwydiant, gan undebau llafur, gan awdurdodau lleol, i wneud mwy i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r diwydiant. Mae'r syniadau pellach hyn, ynghyd â datblygiadau ar lefel y DU, wedi ein harwain at y casgliad y dylid cymryd mwy o amser i benderfynu'n derfynol sut byddwn ni'n mynd i'r afael â thacsis a cherbydau hurio preifat. Caiff deddfwriaeth ar yr agweddau hyn ar y Papur Gwyn ei chyflwyno nawr ar ôl etholiadau nesaf y Cynulliad.
Llywydd, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i ddiwygio a gwella addysg yng Nghymru. Rydym ni eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran ein hagenda ddiwygio uchelgeisiol. Rydym ni wedi newid y system ar gyfer cymorth i fyfyrwyr ac wedi cyflwyno'r pecyn cymorth mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig i israddedigion, graddedigion a myfyrwyr rhan-amser. Rydym ni wedi newid y gyfraith i gyflwyno system addysg a chymorth newydd ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol hyd at 25 oed. Rydym ni wedi diwygio hyfforddiant athrawon, ac rydym ni wedi cyflawni'r rhaglen fuddsoddi fwyaf uchelgeisiol yn ein hysgolion a'n colegau ers dros 50 mlynedd. Yn rhan o'r agenda ddiwygio hon, rydym ni hefyd wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran datblygu ein cwricwlwm newydd arloesol, a gaiff ei gyflwyno mewn ysgolion yng Nghymru o fis Medi 2022. Er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd, byddwn nawr yn cyflwyno Bil cwricwlwm ac asesu i nodi mewn statud yr egwyddorion, y rhyddid a'r strwythurau ar gyfer y cwricwlwm uchelgeisiol, newydd hwnnw.
Ac, mewn Bil ar wahân, Llywydd, byddwn hefyd yn deddfu i sefydlu'r comisiwn addysg ac ymchwil trydyddol, i ddisodli'r cyngor cyllido addysg uwch yma yng Nghymru. Bydd y comisiwn yn cryfhau cynllunio cenedlaethol a rhanbarthol, bydd yn atgyfnerthu'r cysylltiad rhwng ymchwil ac addysg, a bydd yn darparu system addysg a hyfforddiant ôl-orfodol sydd mewn sefyllfa well i ddod â'r sector at ei gilydd i ddarparu gwir ddysgu a sgiliau gydol oes ar gyfer pobl Cymru.
Llywydd, fel y cyhoeddais yr wythnos diwethaf, byddwn yn rhoi sylfaen statudol i bartneriaeth gymdeithasol drwy gyflwyno Bil cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn i ymgorffori'r model partneriaeth gymdeithasol anstatudol presennol yn y gyfraith a sicrhau ei bod hi'n amlwg bod modd gorfodi cytundebau a wneir mewn partneriaeth gymdeithasol.
Y rhain yw'r uchelgeisiau deddfwriaethol y mae'r Llywodraeth hon wedi eu cadarnhau ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn.