3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 16 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 4:30, 16 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n clywed, wrth gwrs, yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud am ad-drefnu llywodraeth leol. Mae ei farn ef yn hysbys iawn ar lawr y Cynulliad, er, byddai'n rhaid imi ddweud, rwy'n ofni, efallai nad yw'r farn honno mor gyffredin ag y byddai wedi gobeithio ar un adeg. Ni fydd ein Bil ni yn gadael llywodraeth leol gyda dulliau llywodraethu John Redwood. Bydd yn cynnig ffyrdd newydd a radical i awdurdodau lleol allu ymarfer pwerau newydd ac fe fyddan nhw'n gallu gweithredu gyda'i gilydd mewn ffordd statudol i gyflawni swyddogaethau ar y sail ranbarthol honno.

O ran yr iaith Gymraeg, mae gennym, fel y gŵyr, chwe chyfres o reoliadau sy'n cwmpasu 120 o wahanol gyrff eisoes, ac mae'r safonau a gyflwynir ynddynt, a'r gydymffurfiaeth â'r rhain, yn cael eu monitro gan Gomisiynydd y Gymraeg. Nid y neges a glywaf i, wrth siarad â phobl, yw bod angen i'r safonau fod yn brif ganolbwynt ein sylw ni, ond yn hytrach sut y cânt eu gweithredu a'u defnyddio—y defnydd o wasanaethau gan bobl sy'n siarad Cymraeg, drwy eu dewis iaith, ac annog pobl i ddefnyddio'r gwasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd. Nawr, wrth gyhoeddi'r penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â Bil y Gymraeg, cyhoeddodd Eluned Morgan y byddai'r rhaglen o gyflwyno safonau ar gyfer cyrff newydd yn ailgychwyn, a'r cam nesaf ar y daith honno fydd cyflwyno safonau newydd ar gyfer rheoleiddwyr gofal iechyd ac ar gyfer y cwmnïau dŵr yng Nghymru. Felly, yn sicr, nid mater o wneud dim byd ynglŷn â'r Gymraeg yw hyn. Ein hymrwymiad ni, a gwn fod yr Aelod yn daer o'i blaid hefyd, yw cyflawni ein huchelgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Diolch iddo am yr hyn a ddywedodd am natur radical ein diwygiadau addysg, am ein penderfyniad i fwrw ati i ymestyn yr etholfraint i rai 16 a 17 oed ac, yn wir, i bobl o rannau eraill o'r byd sy'n byw yn ardaloedd ein hawdurdodau lleol ac sydd â rhan yn nyfodol yr awdurdodau lleol hynny.

Mae'r Aelod yn llygad ei le i nodi gwasanaethau bysiau yn fater o gydraddoldeb. Mae'n wir; fe wyddom, pan soniwn am y gwasanaethau trên ar lawr y Cynulliad, y ceir llawer o gyffro yn aml ynglŷn â hynny. Nid yw'r gwasanaethau bysiau yn denu'r un math o sylw gan y cyhoedd, ac eto i gyd, mae llawer mwy o bobl yn defnyddio'r bysiau, yn enwedig y bobl yr oedd ef yn sôn amdanyn nhw yn ei gyfraniad. Dyna pam yr ydym wedi penderfynu canolbwyntio yn ddiamwys ar reoleiddio'r bysiau yn ystod y tymor Cynulliad hwn, oherwydd, fel y dywedodd Alun Davies, dyma'r edefyn sy'n rhedeg drwy'r rhaglen ddeddfwriaethol. Mae'n rhoi cydraddoldeb ar y blaen, yn ganolog, ac wrth wraidd popeth y mae'r Llywodraeth hon yn dymuno ei wneud yma yng Nghymru.