Part of the debate – Senedd Cymru am 6:16 pm ar 16 Gorffennaf 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ystyriodd y pwyllgor y rheoliadau hyn yn ei gyfarfod ar 8 Gorffennaf 2019 ac adroddwyd un pwynt rhinweddau i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.3(i). Telir trethi datganoledig i Gronfa Gyfunol Cymru, yn unol â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, sy'n nodi bod yn rhaid i Awdurdod Cyllid Cymru dalu'r symiau sy'n cael eu casglu wrth arfer ei swyddogaethau i mewn i Gronfa Gyfunol Cymru.
Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio'r rhyddhad sydd ar gael o ran treth gwarediadau tirlenwi, ac felly gall o reidrwydd effeithio ar y derbyniadau treth a gesglir ac a delir i Gronfa Gyfunol Cymru. Nid yw'r memorandwm esboniadol yn rhoi amcangyfrif o'r gostyngiad yn y derbyniadau treth a ddisgwylir o ganlyniad i'r newidiadau a wneir gan y rheoliadau hyn. Fe wnaethom ni godi'r mater hwn ac, yn ei hymateb i ni, a nodwyd gennym yn ein cyfarfod, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai unrhyw effaith refeniw bosibl o ganlyniad i'r diwygiadau hyn yn debygol o fod yn ddibwys. Dywedodd Llywodraeth Cymru hefyd y bydd y ddeddfwriaeth ddiwygiedig yn cyd-fynd â sefyllfa bresennol Cyllid a Thollau ei Mawrhydi ac, felly, ni fyddai'n cael fawr ddim effaith ar refeniw. Diolch, Dirprwy Lywydd.