Part of the debate – Senedd Cymru am 6:13 pm ar 16 Gorffennaf 2019.
Diolch. Rwy'n falch o gyflwyno Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhadau) (Diwygiadau Amrywiol) 2019. Hoffwn gofnodi fy niolch i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am ei waith yn ystyried y Rheoliadau hyn. Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan adrannau 8(5)(b), 33(1)(b) a 94(1) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017. Mae'n ymwneud â gwelliannau i weithredu rhyddhad adfer safleoedd a rhyddhad chwarel. Bydd rheoliad 2 yn diwygio'r diffiniad o 'waith adfer' i'w gwneud yn glir bod modd trin gwaith adfer sy'n cael ei wneud ar safle gwaredu tirlenwi nad yw wedi'i gapio fel gwaith adfer at ddibenion y Ddeddf. Mae cap yn haen ffisegol o warchodaeth y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru, drwy ei ofynion trwyddedu, yn ei gwneud yn ofynnol i safle weithredu er mwyn cadw a gwahanu'r gwastraff o waith adfer.
Ers dod yn weithredol ym mis Ebrill 2018, mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi dod yn ymwybodol y gall fod safleoedd tirlenwi yng Nghymru, a elwir yn safleoedd anadweithiol, na fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gofyn iddynt osod cap wedi'i beiriannu ar ddiwedd y gwaith gwaredu. Mae hyn oherwydd y risg amgylcheddol isel y mae'r gwarediadau'n sy'n digwydd yno yn ei achosi. Canlyniad y diwygiad arfaethedig yw y daw pob safle tirlenwi, o bosibl, yn gymwys i hawlio rhyddhad adfer safle, gan gynnwys safleoedd tirlenwi anadweithiol.
Bydd rheoliad 3 yn diwygio'r rhyddhad ar gyfer ail-lenwi chwareli neu byllau glo brig. Mae'r diwygiad arfaethedig yn ehangu maint y rhyddhad ychydig er mwyn caniatáu i gymysgeddau o ddeunydd cymwys, ac eithrio gronynnau mân, gael eu dyddodi, yn ogystal â deunydd cymwys yn unig. Mae hyn yn cydnabod, mewn llawer o achosion, y gall deunydd cymhwysol gynnwys ychydig bach ac atodol o ddeunydd nad yw'n gymwys ac sydd o risg isel i'r amgylchedd. Mae'n sicrhau bod ACC yn gallu gweithredu'r rhyddhad mewn ffordd ymarferol a chymesur, heb erydu'r paramedrau clir ac egwyddorion sylfaenol y rhyddhad hwn.
Er bod y rhain yn fân ddiwygiadau, mae'r rheoliadau hyn yn enghraifft o'n hymatebolrwydd i arfer gweithredol. Bydd y rheoliadau diwygiedig yn helpu i sicrhau bod y rhyddhad ar gyfer adfer safleoedd ac ail-lenwi chwareli yn gweithredu mewn modd sy'n ystyried y cyd-destun cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau hyn.