Part of the debate – Senedd Cymru am 1:29 pm ar 5 Medi 2019.
Edrychwch, nawr yw eich cyfle i ddangos y dŵr gwyrdd clir hwnnw, os mynnwch. Mae yna gynnig y byddwch yn pleidleisio o'i blaid, neu yn ei erbyn, y prynhawn yma. Manteisiwch ar y cyfle hwnnw i ddatgan eich annibyniaeth os mai dyna rydych yn dymuno ei wneud.
Nawr, rwy'n credu bod y gwelliannau rydym wedi'u cyflwyno yn yr ysbryd o geisio creu undod ar draws y Siambr hon. Yn sicr, nid ydynt yn ymgais i'n rhannu'n ddiangen mewn unrhyw ffordd. Nid wyf yn credu eu bod yn amherthnasol, oherwydd maent naill ai'n ymwneud ag argyfwng Brexit yn uniongyrchol neu maent yn codi cwestiwn ehangach ynglŷn â'r argyfwng democrataidd sydd, mewn gwirionedd, wedi'i grisialu gan arweinydd Plaid Brexit yma, oherwydd fe ddywedodd, 'Beth bynnag a ddywedwn yma, wrth gwrs, mae'n amherthnasol, oherwydd gall San Steffan ein hanwybyddu', ac mae wedi taro ar her ganolog a wynebir gennym ac a amlygwyd yn ystod y cyfnod hwn, er mai'n ddamweiniol y gwnaeth hynny yn ôl pob tebyg. Ac nid fi yw'r unig un sydd wedi gwneud y ddadl honno, wrth gwrs, ond sawl uwch aelod o'r Blaid Lafur a gynrychiolir yma hefyd.
Mae gwelliant 6, y buaswn yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i'w gefnogi, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r asesiadau a gynhaliwyd gan Swyddfa'r Cabinet o'r effaith niweidiol o adael yr UE heb gytundeb—yr adroddiad bras melyn fel y'i gelwir—yn llawn. Rwy'n deall bod Ysgrifennydd Brexit yr wrthblaid, Keir Starmer, wedi dweud ar 4 Medi y byddai'n gofyn i'w gyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru wneud yr achos hwnnw. Dywedodd, 'Mi wnaf, ond nid wyf yn siŵr y bydd y ffaith fy mod i'n galw amdano'n ddigon i'w gael wedi'i gyhoeddi', cyfaddefodd, ond roedd yn cytuno y byddai ei gyhoeddi'n ddefnyddiol i Lywodraeth Cymru, ac yn wir, mae'n siarad fel cyn-gyfarwyddwr erlyniadau cyhoeddus.
Mae gwelliant pellach, gwelliant 2 a gyflwynwyd gennym,
'yn galw ar i Erthygl 50 gael ei dirymu' os ydym yn wynebu'r posibilrwydd uniongyrchol o Brexit heb gytundeb. Unwaith eto, credaf y dylid cael cytundeb trawsbleidiol ar hyn. Yn ei hanfod, mae'n defnyddio dirymiad fel dewis olaf pan fetho popeth arall a chredaf fod cefnogaeth wedi'i mynegi i hynny gan Aelodau Llafur, ac felly, unwaith eto, byddem yn gobeithio bod modd i ni sicrhau rhyw fath o undod trawsbleidiol yma.
Mae trydydd gwelliant a gyflwynwyd gennym yn nodi, pe bai etholiad cyffredinol yn cael ei alw cyn neu yn lle refferendwm, dylai pleidiau sydd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd ymgyrchu ar bolisi o ddirymu erthygl 50 a pharhau i fod yn rhan o'r UE. Y rheswm syml iawn am hyn, i bob pwrpas, er y byddai'n well gennym gynnal refferendwm, fel y nodir yn y cynnig, yw oherwydd ein bod yn credu mai dyna'r ffordd orau o ddatrys argyfwng Brexit, ac os gwrthodir hynny fodd bynnag, i bob pwrpas, mae etholiad cyffredinol yn troi'n refferendwm ddirprwyol a bydd gennych, ar y naill law, bleidiau sydd o blaid Brexit â neges syml iawn, sef, yn y bôn, Brexit heb gytundeb. Rydym ni ar ochr aros angen neges glir hefyd, ac os yw'n cymryd lle refferendwm i bob pwrpas, yna rydym angen i bleidiau sydd o blaid aros fabwysiadu polisi syml o ddirymu ac aros, ac yn wir, credaf fod y Cwnsler Cyffredinol ei hun wedi mynegi'r farn honno ar 9 Gorffennaf yn y Senedd—ei fod yn gobeithio y byddai'r Blaid Lafur yn hyrwyddo aros yn ei maniffesto mewn etholiad cyffredinol o dan y math o amgylchiadau rwyf wedi'u hamlinellu.
Mae'r gwelliant olaf yn cyfeirio at yr argyfwng democrataidd sy'n ein hwynebu. Mae'n ymgais ddiffuant i ddod â phleidiau at ei gilydd yng Nghymru, i ddefnyddio'r argyfwng presennol mewn modd creadigol, i ddefnyddio'r foment i lansio dadl adeiladol ar ddyfodol Cymru drwy gonfensiwn cyfansoddiadol a chynulliad i ddinasyddion, a fyddai'n edrych ar bob opsiwn ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru. Yn amlwg, mae gan fy mhlaid safbwynt cyfansoddiadol clir iawn o ran annibyniaeth, ond gallem edrych ar yr holl opsiynau sydd ar gael i ni er mwyn datrys yr argyfwng democrataidd y mae Brexit wedi'i amlygu yn fy marn i. Rydym yn cyflwyno'r cynnig hwn mewn ysbryd ecwmenaidd. Ni all creu Cymru newydd fod yn waith i un blaid yn unig. Mae'n waith i genedl gyfan, ei holl bobl a'i holl safbwyntiau. Felly, gadewch i ni ddefnyddio'r ddadl hon, nid yn unig i sefyll yn erbyn y niwed y mae'r Llywodraeth leiafrifol annemocrataidd yn Llundain yn ceisio ei orfodi ar ein gwlad yn fwriadol; gadewch i ni ei defnyddio i lansio symudiad cadarnhaol o blaid newid i ddechrau'r gwaith o greu Cymru newydd a fydd yn cynnig cyfle i ddylanwadu ar, a chymryd rhan mewn Ewrop newydd hefyd.