Part of the debate – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 5 Medi 2019.
Diolch i'r Aelod am ildio. Onid yw'n sylweddoli bod Winston Churchill nid yn unig yn hyrwyddo Undeb Ewropeaidd, ond mewn gwirionedd, cyn yr ail ryfel byd, roedd am i'r DU a Ffrainc uno'n un wlad. Felly, os gwelwch yn dda, ni allwch ddefnyddio Winston Churchill fel rhywun y gallwch ei bortreadu fel rhywun gwrth-Ewropeaidd. Roedd yn hollol groes i hynny.