Part of the debate – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 5 Medi 2019.
Ddirprwy Lywydd, mae gennym Brif Weinidog y DU nad yw wedi'i ethol gan y bobl, un a wrthododd alw etholiad pan oedd yn gyfleus iddo wneud hynny ym mis Gorffennaf a mis Awst, un a geisiodd gau Senedd y DU. Ac un o'r rhesymau pam ein bod ni'n cyfarfod heddiw yw oherwydd bod Senedd y DU yn cael ei mygu. Senedd y DU, gallwn ychwanegu, a gafodd ei hethol yn 2017 mewn gwirionedd—flwyddyn ar ôl y refferendwm. Senedd y DU a etholwyd ar ôl gofyn i bobl a oeddent am gefnogi Theresa May a Brexit eithaf caled, ac fe ddywedodd y bobl 'na'. Nid oes tystiolaeth, felly, fod y bobl am weld Brexit heb gytundeb. Ac wrth gwrs, rydym yn sôn am rywun sydd wedi diarddel rhai o'i Aelodau Seneddol uchaf eu parch, ac mae mwy. Rydym wedi gweld gwleidyddiaeth frawdladdol yn ein tro, ond y bore yma, fe aeth Jo Johnson â hynny i lefel arall eto.
Ac mae wedi gwneud honiadau sy'n amlwg yn ffug. Rydym i gyd yn dweud pethau yn y Siambr sy'n seiliedig ar ffeithiau, ond maent yn seiliedig ar sut rydym ni'n gweld y byd. Ond ni allwch ddweud y bu negodi gyda'r Undeb Ewropeaidd pan fo hynny'n amlwg yn anwiredd. Mae Gweinidog Tramor Iwerddon wedi dweud hyn, mae ASE wedi'i ddweud, mae'r Comisiynydd Barnier wedi'i ddweud—nid oes negodi'n digwydd. Nid yw'r DU wedi cyflwyno unrhyw syniadau o gwbl ynglŷn â lle i fynd yn y dyfodol. Mae'r syniad fod yna gytundeb ar y bwrdd yn aros i gael ei gytuno yn hurt ac yn rhywbeth y mae pobl Prydain yn cael eu twyllo yn ei gylch. A beth bynnag, pe bai etholiad ar 15 Hydref, beth fyddai hynny'n ei olygu? Gallai fod canlyniad amhendant. Beth wedyn? Mae Boris Johnson yn dal i fod yn Brif Weinidog er na fydd ganddo fwyafrif yn y Senedd hyd yn oed. Ac os ydym yn credu o ddifrif y bydd etholiad ar 15 Hydref yn arwain at well negodi ar 17 Hydref, rydym yn twyllo ein hunain. Nid oes unrhyw drafodaethau wedi'u cynllunio ar gyfer 17 Hydref hyd yn oed, oherwydd bod y trafodaethau hynny'n digwydd eisoes. Felly, gwyddom nad yw'r hyn y mae'n ei honni—fod cytundeb ar fin cael ei wneud—yn wir. Mae'n gwbl anwir a chaiff ei yrru gan awydd i weld Brexit heb gytundeb ac yna, pan fydd y canlyniadau'n taro, gall feio eraill—beio'r bobl sydd am aros, beio'r bobl nad oedd yn cefnogi math arbennig o Brexit. 'Nid ein bai ni, syr'—dyna yw'r strategaeth wleidyddol yma, mae gennyf ofn.
Cyfarfûm â Boris Johnson lawer gwaith pan oedd yn faer Llundain. Roedd yn berson rhyddfrydol iawn ei feddwl, yn gymdeithasol iawn ac yn rhywun y gallech gael sgwrs ag ef—Boris Johnson gwahanol iawn i'r un rwy'n ei weld yn awr. Dysgais yn gynnar, fodd bynnag, nad yw'n fawr mwy na llestr gwag a gâi ei lenwi â syniadau gan ei gynghorwyr. Pan oedd yn faer Llundain, bu'n ddigon ffodus i amgylchynu ei hun â phobl a oedd yn rhyddfrydol eu barn ac a oedd yn synhwyrol, a dyna'r hyn a glywech ganddo. Ond bellach, mae cynnwys y llestr wedi cael ei ddisodli gan rywbeth gwenwynig a llawn bustl. Yr hyn a welwn yn awr yw rhywun sy'n barod i aberthu ei blaid ei hun er mwyn cael yr hyn y mae ei eisiau.