Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 5 Medi 2019.
Faint o filoedd o swyddi dur a gollwyd gennym yng Nghymru tra ydym yn yr Undeb Ewropeaidd ac oherwydd y rheoliadau sy'n dod o Ewrop? Ac oni chytunwch fod y maniffesto y mae eich arweinydd, Corbyn, yn ei awgrymu er lles pobl Cymru ac er lles pobl y DU, ac eto ni all ei weithredu am ei fod wedi'i atal rhag gwneud hynny os arhoswn yn yr Undeb Ewropeaidd? Beth am y miloedd o swyddi hynny?