Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 5 Medi 2019.
Lywydd, rwy'n meddwl yn ofalus iawn am yr iaith rwy'n ei defnyddio. Yr hyn a wneuthum oedd rhoi enghraifft benodol iawn o'r hyn sydd wedi digwydd o dan y Prif Weinidog hwn pan anfonodd ei lefarydd i ddweud rhywbeth ar ei ran y mae'n gwybod, ac rydym ni'n gwybod bellach, nad yw'n wir, a'r hyn a ddywedais oedd, os anfonwch rywun i ddweud rhywbeth y gwyddoch nad yw'n wir, celwydd yw hynny, ac nid wyf yn meddwl y dylem gilio rhag dweud hynny.
Nawr, gwrandewais yn astud ar yr hyn oedd gan Paul Davies i'w ddweud, ac rwy'n aml wedi teimlo rhywfaint o gydymdeimlad tuag at arweinydd yr wrthblaid ar lawr y Cynulliad hwn, oherwydd ei fod yn ddyn hoffus. Ac roedd popeth a ddywedodd y prynhawn yma a phopeth a ddywedodd Andrew R.T. Davies y prynhawn yma am y ffaith bod angen i'r Blaid Geidwadol gynnwys amrywiaeth eang o ddaliadau, gwn eu bod yn golygu hynny pan ddywedant hynny wrthym a dyna farn y blaid wleidyddol y maent wedi bod yn perthyn iddi. Ac fel y dywedais, roeddwn yn teimlo rhywfaint o gydymdeimlad ag arweinydd yr wrthblaid—ymgeisiodd am swydd sy'n galw am amddiffyn yr anamddiffynadwy ac mae'n dygnu arni bob wythnos ar lawr y Cynulliad.
Ond mae gennyf lai o gydymdeimlad ag ef ar y mater hwn, gan ei fod wedi cefnogi Boris Johnson yn etholiad arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol gan wybod bod prosbectws y person hwnnw ar Brexit yn fwy niweidiol na dim y gellid bod wedi ei gyflwyno mewn perthynas â Chymru, ac rydym yn gweld hynny. Rydym yn ei weld ac rydym wedi clywed, fel y nododd Carwyn Jones a Rhianon Passmore, yr eironi—yr eironi llwyr—fod Prif Weinidog y DU wedi cynnal ei ymgyrch Brexit yn 2016 ar neges adfer rheolaeth, dim ond i ganfod ei fod wedi trosglwyddo rheolaeth i unigolyn anetholedig sy'n cynllunio ac yn cynllwynio pob cam y mae'r Prif Weinidog yn ei wneud bellach, yn ôl y sôn.
Nawr, dywedodd Paul Davies a David Melding fod hon yn foment inni geisio symud ymlaen gyda'n gilydd, ac y dylem ddefnyddio'r dylanwad sydd gennym fel Llywodraeth i weithio gyda'r weinyddiaeth newydd yn San Steffan. Ac rwyf am ddweud ar lawr y Cynulliad, Lywydd, nad yw'r Llywodraeth hon erioed wedi colli cyfle i fod yn yr un ystafell â'r Llywodraeth Geidwadol a fu gennym ers 2017. Er bod y rheini'n aml yn achlysuron anghyfforddus iawn lle byddwn yn trafod gyda phobl rydym yn anghytuno'n sylfaenol â hwy, nid ydym erioed wedi methu cyfle i fod yno, i geisio bod yn ddylanwadol, i siarad dros Gymru. Ond ers ethol Mr Johnson, rydym wedi cael ein cau allan o'r trafodaethau hynny. O dan ei ragflaenydd, yr anghytunwn yn llwyr â hi, cawsom ein gwahodd i gyfarfodydd Cyd-bwyllgor y Gweinidogion ar Negodiadau Ewropeaidd. Mynychasom is-bwyllgor o'r Cabinet ei hun. Ers i uwch gynghrair Boris Johnson ddechrau, mae'r cyfleoedd hynny wedi diflannu. Roeddem i fod i fynychu cyfarfod ddydd Gwener yr wythnos hon, ond mae'r gwahoddiad hwnnw wedi'i dynnu'n ôl. Ni allwch ddylanwadu ar Lywodraeth nad oes ganddi unrhyw awydd i drafod gyda ni.
Cyfarfûm ag Antoinette Sandbach pan oeddwn yn Nhŷ'r Cyffredin ddiwethaf. Dywedodd wrthyf nad oedd unrhyw fodd o ddatrys Brexit heb barodrwydd ar ran ei phlaid i weithio gyda'r Blaid Lafur i ddod o hyd i dir cyffredin y gallem gytuno arno, ac rydym wedi gweld beth sydd wedi digwydd yn awr i bobl sy'n arddel yr un safbwynt â hi. Gwrandewais yn ofalus iawn ddoe, Lywydd, ar aelod Ceidwadol blaenllaw—wel, cyn-aelod Ceidwadol bellach, o Dŷ'r Cyffredin—yn dweud y byddai Brexit heb gytundeb yn niweidio ein heconomi, ein diogelwch, ein huniondeb a'n lle yn y byd, ac ailadroddwyd pob un o'r themâu hynny ar lawr y Cynulliad y prynhawn yma. Siaradodd Joyce Watson a Jenny Rathbone ar ran y bobl agored i niwed yn ein cymunedau y bydd eu dyfodol economaidd eu hunain yn cael ei niweidio gan Brexit heb gytundeb. Clywsom gan John Griffiths am y difrod a wnaed i Tata, a bydd yn wynebu mwy o hynny os gadawn yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.