Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 18 Medi 2019.
Diolch, Weinidog. Fe fyddwch yn gwybod bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi mynegi pryderon difrifol ynghylch digonolrwydd cyllid ysgolion yn ein hadroddiad diweddar ar ein hymchwiliad i gyllid ysgolion. Roeddwn wrth fy modd fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o'n hargymhellion. Nodaf hefyd y swm sylweddol iawn o arian ychwanegol a fuddsoddwyd mewn ysgolion yn yr adolygiad gwariant diweddar. Yn wyneb y pwysau sylweddol iawn ar gyllid mewn ysgolion, a'r diwygiadau mawr sydd ar y gweill yn ein system addysg, pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd buddsoddi yn nyfodol ein plant a'n pobl ifanc yn brif flaenoriaeth i chi yn y cylch cyllidebol nesaf?