Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 18 Medi 2019.
Weinidog, ym mis Ebrill, datgelodd ymchwil newydd y bydd gwariant y disgybl yn ysgolion Cymru wedi gostwng 9 y cant dros 10 mlynedd. Mae hyn yn doriad o £500 y disgybl mewn termau real. Yn wyneb y ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.25 biliwn o arian ychwanegol dros y tair blynedd nesaf, pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Aelodau i sicrhau bod ysgolion Cymru yn cael yr adnoddau y maent yn eu haeddu?