Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 18 Medi 2019.
Rydym yn asesu effaith ystod o ffactorau ar gynlluniau gwario Llywodraeth Cymru yn barhaus, gan gynnwys yr amcanestyniadau demograffig diweddaraf. Byddaf yn cyfarfod â'r comisiynydd pobl hŷn ar 9 Hydref, fel rhan o fy ngwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid cyn y gyllideb sydd i ddod.