Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 18 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 1:46, 18 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Ddoe, cawsom y wybodaeth ddiweddaraf gennych ar oblygiadau cylch gwario Llywodraeth y DU a'ch blaenoriaethau ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cymru. Clywaf yr hyn rydych newydd ei ddweud yn ateb i gwestiwn blaenorol ynghylch yr awydd i gael amcanestyniad cynaliadwy o wariant bob tair blynedd yng Nghymru, a chredaf fod hynny'n rhywbeth yr hoffai pob un ohonom ei weld yn y pen draw.

Fodd bynnag, a allech roi ychydig rhagor o fanylion inni ynglŷn â sut y bwriadwch fanteisio i'r eithaf ar y cyllid ychwanegol o £600 miliwn neu fwy, gan fod hwnnw i'w groesawu, sy'n dod i Gymru yn sgil y cylch gwario hwn?