Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 18 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 1:48, 18 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Mae'r Gweinidog addysg wedi ymuno â ni yn y Siambr. Yn amlwg, mae ganddi chweched synnwyr, gan fy mod ar fin canolbwyntio ychydig ar rai o'r cyhoeddiadau a wnaeth ddoe mewn perthynas â gwariant ar addysg. Nid yw cyllid ysgolion yn arbennig, fel y dywedais ddoe, wedi cadw i fyny â chwyddiant yng Nghymru. Rhwng 2010-11 a 2018-19, mae gwariant gros y gyllideb ar ysgolion wedi wynebu toriad mewn gwirionedd o 2.9 y cant mewn termau real—rwy'n sôn am dermau real nawr, nid yn nhermau arian parod—ac mae cyllid ysgolion y disgybl wedi ehangu i £645 y disgybl yn 2017-18. Sut y defnyddiwch y dyraniad cyllid newydd i fynd i'r afael â hyn?