Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 18 Medi 2019.
Wel, ni allaf gytuno bod Llywodraeth y DU wedi gweithredu ar unwaith i fynd i’r afael â chyllid mewn ysgolion. Maent wedi bod mewn grym ers degawd, felly mae wedi cymryd cryn dipyn o amser iddynt gydnabod pwysigrwydd addysg, ac maent hefyd wedi rhoi sicrwydd o ragolwg gwariant tair blynedd i ysgolion a'r GIG yn Lloegr. Nid oedd ganddynt y cwrteisi i wneud hynny yma yng Nghymru, lle yr addawyd adolygiad gwariant tair blynedd. Felly, o ran gwneud cyhoeddiadau heddiw ac addewidion heddiw, nid wyf mewn sefyllfa i wneud hynny. Rydym newydd gael ein dyraniadau gwariant ar gyfer y flwyddyn nesaf, gyda dwy flynedd i wneud hynny. Ond hoffwn sicrhau pobl ein bod yn gwrando ar yr holl ddadleuon a wnaed gennych chi, yr awdurdodau lleol, a'r gwahanol sectorau, ac ystyrir hynny i gyd wrth i ni osod y cyllidebau yn y dyfodol.