Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 18 Medi 2019.
Weinidog, yng nghyd-destun y cyni hwn, os gallwn gael rhywfaint o eglurder ynghylch y sefyllfa ariannol, efallai y gallech ddweud wrthym faint o arian a gollwyd gennym ers 2010 pan ddaeth y Torïaid i rym, efallai y gallech ddweud wrthym pa warantau a gawsoch mewn perthynas â chyllid yr Undeb Ewropeaidd pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac o ran yr arian ychwanegol sy'n cael ei addo, a ydym wedi gweld rhywfaint o'r arian hwn mewn gwirionedd, neu a yw'n dal i fod yr un mor ddychmygol—[Torri ar draws.] A yw'n dal i fod yr un mor ddychmygol â chytundeb Brexit Prif Weinidog y DU?