Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 18 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:52, 18 Medi 2019

Diolch yn fawr iawn. Ar ôl degawd o wasgu ar eu cyllidebau, all lywodraeth leol yng Nghymru ddim cymryd mwy o doriadau, neu hyd yn oed aros yn llonydd o ran eu cyllid. A allwch chi roi sicrwydd y bydd llywodraeth leol yn cael ei blaenoriaethu ar gyfer 2020-21 gyda chynnydd sylweddol termau real yn eu cyllidebau nhw?